b'
Logiwch allan o fywyd go-iawn am bnawn, joiwch Lockdown 2: Electric Boogaloo a dewch i ddathlu 10 mlynedd o\\u2019r Haclediad!
\\n\\nMae Bryn, Iestyn a Sioned am fynd \\xe2 chi ar daith hiraethus lawr 10 mlynedd o\\u2019r RSS feed - gan groniclo\\u2019r b\\u0175z, apps, tech a digwyddiadau sydd wedi\\u2019n newid ni ar y ffordd.
\\n\\nY #ffilmdiddim o 2010 yw The Last Airbender (ond peidiwch gwylio fo, mae\\u2019n ofnadwy). Daliwch i wrando mewn i awr 3 lle mae\\u2019r achos waethaf o igian erioed yn taro un o\\u2019r t\\xeem\\u2026
\\n\\nDIOLCH i bob un ohonoch chi sy\\u2019n gwrando bob mis - fyddwn ni\\u2019n falch o ddod \\xe2 chi efo ni am 10 mlynedd arall
Links: