b'
“Henffych ddarpar wrandawyr!
\\nHoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!”
Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd\\xa0sbon ar ein annwyl Haclediad.
\\n\\nBydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn, mae’r criw, Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn cael lot o drafod\\xa0Mac allan o’i system. Gyda defnydd estynedig Bryn o’r iPad, anrheg ‘Dolig cynnar yr Apple TV gan Iestyn, a Sioned yn cracio dan y\\xa0gwasgedd a gadael i iMac ddyfod i’w th\\u0177, mae\\xa0 digon i chi wrando arno, ond dim gormod i syrffedu arno gobeithio!
\\n\\nCofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am r\\u0175an cyflwynwn yr Haclediad i chi\\xa0wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar podlediad@haciaith.com.
\\n\\n\\n\\nEdrychwn mlaen i glywed ganddo chi!
\\n\\nCriw’r Haclediad
\\n\\nO.N. Ffrwd iTunes yn dod yn fuan.
\\nDiolch yn fawr i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r g\\xe2n i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com
The post Croeso i’r Haclediad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
'