2. Rhyddid i Addoli

Published: Dec. 7, 2022, 10:30 a.m.

b"

Rowan Williams cyn Archesgob Cymru a Chaergaint yn traddodi ei ddarlith Reith i'r BBC yn y Gymraeg gan drafod ffydd a rhyddid. Yn \\xf4l yr Arglwydd Acton, yr awdur ar ryddid o'r 19 ganrif a ddyfynnir yn y ddarlith, rhyddid crefyddol yw sail pob rhyddid gwleidyddol. Mae Rowan Williams yn cymhwyso hyn yng nghyd destun De Affrica, y gwrthdaro yn y ddadl gyfoes am erthylu ac amryw bynciau eraill. Dadleuir fod rhyddid i addoli yn gorfod cynnwys y rhyddid i fynegi argyhoeddiadau yn ogystal a'r rhyddid i gyd-gyfarfod.

Recordiwyd y fersiwn Saesneg o'r ddarlith a sesiwn cwestiwn ac ateb o flaen cynulleidfa ym Mhrifysgol Abertawe gydag Anita Anand yn cyflwyno. Cyflwynir y ddarlith yn y Gymraeg gan John Roberts.

Araith yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn 1941 ar y pedwar rhyddid yw\\u2019r ysbrydoliaeth ar gyfer darlithoedd Reith 2022 gan holi pa mor hanfodol yw'r pedwar rhyddid heddiw. Traddodir pedair darlithydd yn Saesneg. Darlith Rowan Williams yn unig sydd wedi ei recordio yn y Gymraeg. Trafodir:\\nRhyddid i lefaru gan Chimamanda Ngozi Adichie, \\nRhyddid i addoli gan Rowan Williams,\\nRhyddid rhag angen gan Darren McGarvey, \\nRhyddid rhag ofn gan Fiona Hill.

Cynhyrchydd y gyfres: Jim Frank \\nCynhyrchydd y fersiwn Gymraeg: John Roberts (Cwmni Tonnau Cyf.) \\nPeirianwyr sain: Rod Farquhar, Neil Churchill a Gareth Turrell\\nCydlynydd cynhyrchu: Brenda Brown \\nGolygydd: Hugh Levinson

"