b"
Yn ei harddegau, roedd Si\\xe2n Grigg yn bendant nad oedd am ddilyn ei mham, a oedd yn golurydd gyda'r BBC.
Aeth i goleg celf gyda'r bwriad o fod yn artist, ond sylweddolodd nad oedd yn mwynhau gweithio ar ei phen ei hun mewn stiwdio.
Cafodd hyfforddiant fel colurydd, gan ddechrau gweithio ar raglenni teledu a ffilmiau.
Wrth weithio ar y ffilm Titanic yn 1996, cwrddodd \\xe2 Leonardo DiCaprio, a Si\\xe2n sy'n gwneud colur yr actor ar gyfer pob ffilm ers hynny.
Mae'n s\\xf4n wrth Beti am ei dyslecsia, crefft bod yn golurydd, a heriau gweithio ar ffilmiau fel Titanic a The Revenant.
"