Sel Williams

Published: Nov. 5, 2017, 12:13 p.m.

b"

Beti George yn holi Sel Williams o Ffestiniog.

Wedi cyfnod o ansicrwydd ynghylch beth i'w wneud ar \\xf4l graddio, i fyd addysg yr aeth yn y pen draw, gan dreulio blynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Bangor. Yno, bu'n gweithio ar gyrsiau newydd, gan gynnwys rhai'n ymwneud \\xe2 datblygiad cymunedol. Does ryfedd, felly, mai'r gymuned leol yw un o'r pethau pwysicaf yn ei fywyd ar \\xf4l ymddeol.

Mae tua dwsin o fentrau cymunedol yn Ffestiniog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae Sel yn pwysleisio pa mor hanfodol ydyn nhw yng nghyd-destun un o ardaloedd tlotaf Gorllewin Ewrop.

Mae ganddo deimladau cryf am Gymru hefyd, a chyfraniad posib y wlad a'i phobl i'r byd yn ehangach. Ai'r cyfryngau cymdeithasol ydi'r ateb, tybed, yn hytrach na dibynnu ar sefydliadau fel prifysgolion?

"