b"
Wedi'i geni a'i magu yn Surrey, doedd Sarah Reynolds prin yn ymwybodol o Gymru a'r Gymraeg cyn iddi gwrdd \\xe2'i g\\u0175r, Geraint, ar dd\\xeat cudd yn Llundain.
Yn byw yng Nghymru erbyn hyn, cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2016.
Yn ifanc, ceisiodd wrthryfela trwy fod yn actores, cyn newid trywydd wedi cyfnod o iselder.
Mae wedi gweithio yn y cyfryngau, ac yn un o'r criw a oedd yn dyfeisio tasgau ar gyfer preswylwyr t\\u0177 Big Brother, ond fel awdures sy'n magu ei theulu yng Nghymru y mae'n teimlo iddi ddod o hyd i'r lle mae hi\\u2019n perthyn.
"