Richard Hughes

Published: June 25, 2023, 6 p.m.

b"

Arbenigwr ar gyfrifiaduron a mathemateg o Gaernarfon, Richard Hughes ydi gwestai Beti George.

Mae'n raglennydd cyfrifiadureg, ac wedi gweithio ar systemau gweithredu ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Mae wedi dysgu 10 o ieithoedd cyfrifiadurol, ac ati ac wedi ysgrifennu sawl rhaglen gyfrifiadurol ei hun.

Bu'n gyrru lori, yn gwneud cyfrifiadur ar gyfer y ffilm Billion Dollar Brain efo Michael Caine yn y 60'au ac mae'n mwynhau chwarae'r ffliwt a dyfarnu snwcer, ac mae wedi ymgartrefu yn yr Almaen ers blynyddoedd.

"