Rhiannon Boyle

Published: Jan. 29, 2023, 2 p.m.

b"

Y dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi\\u2019i selio ar brofiadau personol a\\u2019i pherthynas hi gydag alcohol.

Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well.

O ganlyniad, mi benderfynodd beidio ag yfed alcohol eto.

Cawn glywed am sut y dechreuodd astudio Drama yn yr ysgol, wedi cyfnod anodd ar \\xf4l i'w rhieni wahanu, a sut y newidiodd ei byd.

Clywn hefyd am rai o'i dram\\xe2u, yn cynnwys 'Safe From Harm' i Radio 4, sydd dal ar BBC Sounds; 'Anfamol' a gynhyrchwyd gan y Theatr Genedlaethol, a'i chomisiwn diweddaraf i addasu'r nofel 'Un Nos Ola Leuad' ar gyfer Radio 4 a Radio Cymru.

"