b"
Beti George yn sgwrsio gyda'r cerddor Patrick Rimes. Mae e'n s\\xf4n am ei fagwraeth ym Methesda ac am gwrdd \\xe2'i dad am y tro cyntaf pan oedd yn dair ar ddeg oed. Cawn wybod am ei sylfeini cerddorol ac am ei ddylanwadau cerddorol ac wrth gwrs hanes sefydlu'r band gwerin Calan. Mae e hefyd yn s\\xf4n am helpu ei fam gyda'i busnes gwneud caws dafad yn ystod cyfnod Covid 19.
"