Osian Williams

Published: Dec. 23, 2018, 1 p.m.

b"

Ers pan oedd yn ifanc, roedd Osian Williams yn gwybod mai cerddor yr oedd am fod. Mae'n teimlo mai dyna'r unig beth y gallai fod wedi ei wneud.

Cafodd ei fagu ar aelwyd gerddorol yn Llanuwchllyn, gan ddysgu gan ei dad sut i chwarae'r drymiau a'r git\\xe2r. Roedd ei dad yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a sioeau cerdd y cwmni yn rhan o fagwraeth Osian.

Astudiodd mewn coleg cerdd yn Lerpwl, gan adael ar \\xf4l tymor. Doedd e ddim yn gyfforddus yno, nag yn barod i astudio bryd hynny. Wedi gweithio am gwpl o flynyddoedd, aeth i Brifysgol Bangor, gan gwblhau gradd a gradd meistr.

Enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015, a mae wedi trefnu cerddoriaeth ar gyfer rhai o gyngherddau'r brifwyl, gan gynnwys un Geraint Jarman yn 2018.

Mae Osian yn adnabyddus fel prif leisydd y gr\\u0175p Candelas, ond fe oedd y drymiwr yn wreiddiol, gan taw'r drymiau oedd ei gariad cyntaf.

"