Llinos Dryhurst-Roberts

Published: Oct. 21, 2018, 11:59 a.m.

b"

Braf 'di cael bod yn hapus, yn \\xf4l Llinos Dryhurst-Roberts.

Mae hi bob amser wedi bod yn hoff o antur, ac wedi treulio blynyddoedd yn y fyddin, gan wasanaethu yn Bosnia sawl tro.

Mae wedi gweithio hefyd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac i gwmni preifat yn Irac, lle cafodd ei hanafu'n ddifrifol.

Wedi\\u2019r anaf, daeth cyfnod gyda'r gwasanaeth cudd, ond erbyn hyn mae'n cydreoli ac yn coginio mewn caffi yng Nghaernarfon.

Mae'n dweud ei bod yn fodlon ei byd, wedi cael gwireddu sawl breuddwyd, ac wedi dod i ddeall beth sy'n bwysig mewn bywyd.

"