b"
Beti George yn sgwrsio gyda John Grisdale.
Wedi'i eni ym Mangor a'i fagu ym Mhenisarwaun, symudodd i Gaernarfon pan oedd ond yn blentyn bach.
Ar \\xf4l gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys dod yn bennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug yn y 1990au, cafodd swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio ar gynllun cyswllt rhwng yr heddlu a holl ysgolion Cymru.
Mae bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn aelod gwirfoddol o D\\xeem Achub Mynydd Llanberis. Fo hefyd oedd un o sylfaenwyr Clwb Mynydda Cymru ar ddiwedd y 1970au.
"