b"
Cafodd Ieuan Edwards brentisiaeth gyda chigydd yn Llanrwst ar \\xf4l gadael yr ysgol, a sylweddolodd ei fod yn mwynhau delio \\xe2 chig o safon, a chyfathrebu gyda chwsmeriaid.
Pan yn 20 oed, gwelodd hysbyseb mewn papur lleol bod siop ar werth yng Nghonwy. Fe'i prynodd, ac mae'n dal yno hyd heddiw, yn cyflogi nifer o bobl leol.
Heblaw am y busnes a'r teulu, ceir yw ei gariad pennaf.
"