b"
Beti George yn sgwrsio \\xe2 Dr. Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ogystal \\xe2 bod yn uwch ddarlithydd yn y brifddinas, mae'n brysur iawn gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd, ac yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y radio a'r teledu.
Mae'n gwmni i Beti ar achlysur derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a hynny am ei gyfraniad oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
"