Felicity Roberts

Published: Oct. 23, 2023, 4:14 p.m.

b"

Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda \\u2018Inspire Awards\\u2019 dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi\\u2019n 8 oed, yna am 3 blynedd bu\\u2019n aros yng nghwfaint St Gerard\\u2019s Bangor. Roedd ei rhieni\\u2019n awyddus iddi gael addysg yn y cwfaint er mwyn gwneud yn si\\u0175r bod Felicity yn pasio\\u2019r arholiad 11+. Yna mynychodd Ysgol Ramadeg Pwllheli ac ar \\xf4l 2 flynedd ym Mhwllheli safodd yr arholiadau i fynd i Ysgol Howells yn Ninbych.

Ers dyddiau ysgol roedd hi wedi bod yn canlyn Robert Roberts ac roedd y ddau\\u2019n fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor. Priododd y ddau ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf a ganwyd eu plentyn cyntaf ar ddiwedd eu hail flwyddyn, y cyntaf o chwe phlentyn i'r ddau.

Swydd gyntaf Felicity pan symudodd y teulu i fyw i Flaenplwyf, oedd swydd rhan amser fel cynorthwyydd ymchwil i ysgolion Meithrin Cymru. Yn 1978 cafodd radd mewn Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ac mi gafodd swydd yn yr adran Gymraeg yn dysgu Cymraeg i ddechreuwyr yno. Ni adawodd Felicity yr adran Gymraeg wedyn am 27 mlynedd.

Daeth ei phriodas \\xe2 Robert i ben ac mae hi mewn perthynas ers 44 o flynyddoedd efo Jaci ac mae'n byw bywyd prysur iawn rhwng y gwaith a'r teulu mawr.

"