Elin Maher

Published: Aug. 27, 2023, 6 p.m.

b"

Elin Maher yw gwestai Beti a'i Phobol.

Mae hi'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac yn ymgynghorydd iaith ac addysg lawrydd ers nifer o flynyddoedd bellach - ac wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ac o fewn maes datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol trwy gydol ei gyrfa, gyda\\u2019r Gymraeg a dwyieithrwydd yn graidd i\\u2019w gwaith.

Yn enedigol o Gwm Tawe, ond yn byw yng Nghasnewydd gyda\\u2019i theulu ers ugain mlynedd. Mae\\u2019n parhau i weithio\\u2019n ddyfal yn datblygu addysg Gymraeg a\\u2019r Gymraeg o fewn y gymuned yng Ngwent a thu hwnt drwy ei gwaith fel llywodraeth wraig ysgol brofiadol ac aelod o fyrddau nifer o elusennau lleol a chenedlaethol.

Bu'n byw yn yr Iwerddon am gyfnod ar \\xf4l priodi Aidan yn 1998, fe gwrddodd y ddau yn 1993 pan oedd Elin wedi mynd efo\\u2019r Urdd i wersyll yn Iwerddon gan fudiad tebyg iawn i\\u2019r Urdd. Bu hefyd yn byw am gyfnod yn Angers, ardal y Loire yn Ffrainc yn ystod ei blwyddyn allan o'r Brifysgol.

"