b"
Mae Beti George yn sgwrsio gydag Elin Llwyd Morgan am ei gyrfa fel newyddiadurwraig, cyfarfod Peris ei chymar a sut wnaeth ei bywyd newid pam symudodd i Glyn Ceiriog i fyw a phan ddaeth ei mab Joel i'r byd.
Mae hi'n s\\xf4n am ei magwraeth, ei hoffter o nofio yn y m\\xf4r ac yn rhannu ei phrofiadau personol o fagu mab sydd ag awtistiaeth.
Mae hi hefyd yn dewis ambell i g\\xe2n sydd wedi creu argraff.
"