Dyfed Edwards

Published: April 24, 2022, 1 p.m.

b"

Y nofelydd Dyfed Edwards, ydi gwestai Beti George. Enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddod Genedlaethol ddwy waith yn olynol., ac mae hefyd yn awdur toreithog yn Saesneg gan ysgrifennu dan yr enw Thomas Emson.

Cafodd ei fagu ym mhentref Rhosmeirch ger Llangefni, ac fe aeth i Ysgol Gynradd Llangefni ac wedyn symud i Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd wrth ei fodd yn darllen comics a llyfrau, dechreuodd yn y cyfnod yma ddarlunio a sgwennu straeon bach ei hun. Yna aeth i\\u2019r Coleg Normal ym Mangor i astudio \\u2018r cwrs Cyfathrebu yn 1985 . Dim ond ryw 7 ohonynt oedd yn astudio\\u2019r cwrs. Roedd y cwrs yn un weddol newydd ar y pryd ac yn dal i gael ei ddatblygu a\\u2019i greu. Un modiwl y dewisodd oedd Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Rhiannon Davies Jones ac Ifor Wyn Williams sydd wedi ei ddylanwadu\\u2019n fawr.

Ymgeisiodd am swydd gohebydd dan hyfforddiant efo gr\\u0175p papurau newydd yr Herald a bu\\u2019n llwyddiannus. Bu'n gweithio gyda'r Holyhead and Anglesey Mail, bu'n Ddirprwy Olygydd y Weekly News yng Nghyffordd Llandudno, a bu hefyd yn Olygydd Cynhyrchu'r Daily Post yng Nghymru. Mae bellach yn gweithio gyda\\u2019r Daily Mail gan weithio ar y ddesg fusnes. Mae\\u2019n gweithio o adref sy\\u2019n gr\\xeat. Mae o hefyd yn darlithio mewn ysgrifennu creadigol.

Mae wedi ysgrifennu nifer o gyfrolau yn y ddwy iaith, ac mae bob amser nofel neu sgript ar y gweill.

"