David Williams

Published: May 25, 2018, 9:37 a.m.

b"

Yn wreiddiol o Drawsfynydd, fe symudodd David Williams i'r Ganllwyd pan benodwyd ei dad yn brifathro yno. Symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn blentyn gan fod galw mawr am athrawon yno. Golygai hyn siwrnai 6 wythnos ar long.\\nPan oedd David Williams yn ei arddegau fe ddaeth y teulu yn \\xf4l i Gymru ac fe aeth David ati i astudio newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel is-olygydd newyddion yn Swansea Sound, a rhwng 1977 ac 1987 roedd yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu fel gohebydd 'Wales Today' a 'Wales This Week' gydag ITV.\\nDaeth David Williams i sylw'r wasg ryngwladol yn sgil ambell i stori yr aeth ar ei hol, a bu hefyd yn gyflwynydd y rhaglen deledu Dragon's Eye, oedd yn cadw llygad ar weithgareddau ym Mae Caerdydd.

"