David John

Published: Sept. 23, 2018, noon

b"

Rhyddid meddwl, bywydau preifat unigolion a hawliau dynol yw'r them\\xe2u sy'n mynd \\xe2 sylw'r awdur David John (D.B. John), dro ar \\xf4l tro yn ei waith.

Yn enedigol o Efail Isaf, bu'n gweithio yn adran gytundebau cwmni cyhoeddi mawr yn Llundain, cyn newid cyfeiriad a gweithio fel golygydd llyfrau i'r un cwmni.

Trwy gymryd cyfnodau di-d\\xe2l o'r gwaith, cafodd gyfle i deithio yn helaeth, gan gynnwys cyfnodau yn Ynysoedd Cook a De America.

Cafodd brofiad brawychus yn Wrwgw\\xe1i, wrth i leidr ei fygwth gyda dryll. Ysbrydolodd hynny stori fer ganddo, gan ailgynnau ei ddiddordeb mewn 'sgrifennu.

Penderfynodd ddilyn cwrs M.A. mewn ysgrifennu creadigol, a ffrwyth y cwrs oedd ei nofel gyntaf, Flights to Berlin.

Mae hefyd yn s\\xf4n wrth Beti George am ei gyfnodau yng Ngogledd Corea, yn ymchwilio ar gyfer ei ail nofel, ac am weithio fel cynorthwy-ydd i'r Gordon Brown a'r Tony Blair ifanc yn San Steffan.

"