Catrin Williams

Published: May 5, 2019, noon

b"

Mae'r artist Catrin Williams wedi'i disgrifio fel chwa o awyr iach yn y byd celfyddydol, oherwydd ei defnydd o liw; serch hynny, mae pobl yn prynu ei gwaith yn parhau i'w synnu.

Cafodd ei magu ar fferm ger Y Bala, ac mae'r profiad o fyw yng Nghymru wedi dylanwadu'n fawr ar ei chelf.

Astudiodd ym Mangor gyda'r arlunydd Peter Prendergast, ac yna yng Nghaerdydd.

Ar daith i Baris fel myfyriwr, gwelodd arddangosfa o waith Matisse. Cafodd ei hysbrydoli, a mae'n dweud iddi ddarganfod ei harddull ei hun fel artist o ganlyniad.

Paentio mae hi gan fwyaf, ond mae hefyd yn gweithio gyda chyfryngau a deunyddiau amrywiol, ac yn hen law ar gynnal gweithdai celf ar hyd a lled Cymru.

Mae'n sgwrsio gyda Beti am orfod creu, teithio gydag Anhrefn, ac am bwysigrwydd cerddoriaeth.

"