07/01/2018

Published: Jan. 7, 2018, 12:14 p.m.

b"

Yn wreiddiol o Wauncaegurwen, roedd Barry Morgan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i'r brifysgol yn Llundain i astudio hanes, ac yna i Gaergrawnt i wneud gradd mewn diwinyddiaeth. \\nCafodd ei ordeinio gan fynd yn giwrad i Ddinas Powys am dair blynedd a bu ar staff Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, am ddwy flynedd yn ogystal ag yn darlithio mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. \\nAeth Barry Morgan wedyn yn gaplan i Fangor, gan ddarlithio yn y Brifysgol yno cyn symud i Wrecsam fel offeiriad plwy. Fe'i galwyd n\\xf4l i Esgobaeth Bangor, i Gricieth, i fod yn Rheithor ac Archddiacon Meirionydd, cyn ei ethol yn Esgob Bangor yn 1993, yn Esgob Llandaf yn 1999, ac yna'n Archesgob Cymru yn 2003.

"