Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd y 14eg.

Published: Nov. 14, 2023, 2 p.m.

b'

Clip 1: Bore Cothi

Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Sh\\xe2n Cothi. Gan ei bod hi\\u2019n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo\\u2019r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn s\\xf4n am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw:

Nionod\\t\\t\\t\\tWinwns\\nLlydaw\\t\\t\\t\\tBritanny\\t\\t\\t\\t\\nAr gyrion\\t\\t\\t\\tGer\\t\\t\\nBragdai\\t\\t\\t\\tBreweries\\nArbrofi\\t\\t\\t\\tTo experiment\\nEirin\\t\\t\\t\\t\\tPlums\\nEirin tagu\\t\\t\\t\\tSloes\\nHel\\t\\t\\t\\t\\tCasglu\\nY werin \\t\\t\\t\\tThe common people\\nByddigion\\t\\t\\tPosh people

Clip 2 \\u2013 Rhaglen John ac Alun.

Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio\\u2019n ddiddorol yn tydy?

Roedd \\u2018na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd\\u2013 parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi\\u2019n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o\\u2019r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn \\xf4l yn Ebrill 1998:

Hel atgofion\\t\\t\\tReminisce\\nDarlledu\\t\\t\\t\\tTo broadcast\\nDipyn o gamp\\t\\t\\tQuite an achievement\\nPara\\t\\t\\t\\tTo last\\nCyflwyno\\t\\t\\t\\tPresenting\\nCynulleidfa\\t\\t\\tAudience\\nWch chi be?\\t\\t\\tYou know what?\\nCefndir\\t\\t\\t\\tBackground

Clip 3: Dros Ginio

John ac Alun yma o hyd, ac yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr Radio Cymru.

Yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl ifanc yn delio efo eco-bryder, sy\\u2019n cael ei achosi drwy boeni am effeithiau newid hinsawdd. Mae Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle yn un o\\u2019r rheini, a buodd hi\\u2019n s\\xf4n wrth Cennydd Davies wythnos diwetha am y profiad o fyw efo\\u2019r cyflwr hwn:

Eco-bryder\\t\\t\\t\\tEco anxiety\\nNewid hinsawdd\\t\\t\\tClimate change\\nCyflwr\\t\\t\\t\\t Condition\\nYn fengach\\t\\t\\t\\tYn ifancach\\nBaich \\t\\t\\t\\t\\tA burden\\nTeimlo\\u2019n euog\\t\\t\\t Feeling guilty\\nRhwystredig\\t\\t\\t Frustrating\\nGwyddonwyr\\t\\t\\t Scientists\\nSbio\\t\\t\\t\\t\\t Edrych

Amgylchedd\\t\\t\\t\\tEnvironment

Clip 4: Newid Hinsawdd a Fi

Does na ddim llawer o fanteision i newid hinsawdd nac oes, ond mi glywon ni am un fantais ar y rhaglen Newid Hinsawdd a Fi bnawn Sul y 5ed o Dachwedd. Aeth Leisa Gwenllian draw i Winllan y Dyffryn ger Dinbych. Mae newid hinsawdd yn golygu ei bod yn bosib cynhyrchu gwin yn Nyffryn Clwyd hyd yn oed. Yma mae Leisa yn sgwrsio efo perchennog y winllan, Gwen Davies sydd wedi dysgu Cymraeg:

Cynhyrchu\\t\\t\\t\\t\\tTo produce\\nPerchennog\\t\\t\\t\\t\\tOwner\\nGwinllannoedd\\t\\t\\t\\tVineyards\\nCynnydd sylweddol\\t\\t\\t A substantial increase\\nYn yr un gwynt\\t\\t\\t\\tIn the same breath\\nGwinwydd\\t\\t\\t\\t\\tVine\\nArallgyfeirio\\t\\t\\t\\t\\tDiversify\\nDatblygu\\t\\t\\t\\t\\t To develop\\nAeddfedu\\t\\t\\t\\t\\t To mature\\nCysgodi\\t\\t\\t\\t\\t To shelter

Clip 5: Rhaglen Ifan\\n \\nIa, mae na sawl gwinllan wedi agor yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha yn does? Er dw i ddim yn cofio clywed am un mor ogleddol a Gwinllan y Dyffryn chwaith. Pob lwc a iechyd da i holl gynhwychwyr gwin Cymreig!

Yn ddiweddar ar raglen Ifan, tra bod Hana Medi yn cadw ei sedd yn gynnes, sgwrsiodd Hana gyda Cefin Evans o glwb Dyfed Dirt Bikes. Mae Cefin wedi teithio yr holl ffordd o Gymru i\\u2019r Ariannin i wylio cystadleuaeth arbennig iawn, un o brif gystadlaethau Enduro\\u2019r Byd, a hynny gan fod ei fab Rhys yn cystadlu yno ar ran y clwb:

Ariannin\\t\\t\\t\\t\\tArgentina\\nEang\\t\\t\\t\\t\\tWide\\nMas\\t\\t\\t\\t\\t\\tAllan\\nBola\\t\\t\\t\\t\\t\\tBol\\nParatoi\\t\\t\\t\\t\\tTo prepare\\nTlodi\\t\\t\\t\\t\\tPoverty\\nGwerthfawrogi\\t\\t\\t\\tTo appreciate

Clip 7 \\u2013 Beti a\\u2019i Phobol

Wel dyna brofiad gwych i glwb Dyfed Dirt Bikes ynde? Dw i\\u2019n si\\u0175r eu bod wedi mwynhau pob eiliad o\\u2019r daith arbennig i\\u2019r Ariannin.

Bronwen Lewis, y gantores, oedd gwestai Beti George nos Sul ddiwetha. Cafodd Bronwen ei magu ym Mlaendulais a daeth yn amlwg ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, wrth iddi hi ganu o\\u2019i chartref a rhannu\\u2019r perfformiad ar Facebook. Mi fuodd Branwen yn cystadlu ar raglen deledu The Voice yn y gorffennol ac mae\\u2019n cyflwyno rhaglen ar Radio Wales ar foreau Sul ar hyn o bryd:

Amlwg\\t\\t\\t\\t\\tProminent\\nGwefannau cymdeithasol\\tSocial media\\nYr aelwyd\\t\\t\\t\\tThe home\\nTad-cu\\t\\t\\t\\t\\tTaid\\nFfili\\t\\t\\t\\t\\t\\tMethu\\nArweinydd\\t\\t\\t\\tConductor\\nMas\\t\\t\\t\\t\\t\\tAllan

'