Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 6ed 2022

Published: Dec. 6, 2022, 2 p.m.

b'

Bore Cothi - Huw Williams 29.11\\n \\n \\nDdechrau\\u2019r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o\\u2019r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr \\u0174yl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio...\\n

Ffair Aeaf\\t\\t\\t\\t\\t Winter Fair

Milfeddygon\\t\\t\\t\\t\\tVets

Darlledu\\t\\t\\t\\t\\tBroadcasting

Hamddenol\\t\\t\\t\\t\\tLeisurely

Archwilio\\t\\t\\t\\t\\tTo inspect

Anhygoel\\t\\t\\t\\t\\tIncredible

Y cylch\\t\\t\\t\\t\\t\\tThe ring

Beirniad\\t\\t\\t\\t\\t Judge

Rhesymu\\u2019n gyhoeddus\\t\\t\\t\\tOutlining the reasons publicly

Arddangoswyr\\t\\t\\t\\t\\tExhibitioners

Beti a\\u2019I Phobl \\u2013 Sylvia Davies 4.12\\n \\nBlas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi.

Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o\\u2019r sgwrs ble mae hi\\u2019n esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i\\u2019r brifysgol i astudio anthropoleg ar \\xf4l iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc...\\n

Doedd fy mryd i ddim\\t\\t\\t\\tI wasn\\u2019t inclined

Trywydd traddodiadol\\t\\t\\t\\tA traditional path\\t

Aeth ar gyfeiliorn\\t\\t\\t\\t Went astray

Ennill fy nhamed\\t\\t\\t\\t To earn my living

Gradd\\t\\t\\t\\t\\t\\t Degree

Tystiolaeth\\t\\t\\t\\t\\t Evidence

Tystysgrif\\t\\t\\t\\t\\t Certificate

Dyrchafiad\\t\\t\\t\\t\\tPromotion

Mo\\u2019yn\\t\\t\\t\\t\\t\\tEisiau

Crefydd\\t\\t\\t\\t\\t\\tReligion

Dros Ginio \\u2013 Rhys Mwyn 28.11\\n \\nSylvia Davies oedd honna\\u2019n esbonio wrth Beti George beth wnaeth iddi hi benderfynu mynd i brifysgol yn hytrach nag aros yn y banc. \\nNia Ceris oedd yn cyflwyno Dros Ginio bnawn Llun a chafodd hi sgwrs gyda\\u2019r cyflwynydd radio a\\u2019r archeolegydd Rhys Mwyn am y mosaig anhygoel o oes y Rhufeiniaid cafodd ei ffeindio ar dir fferm yn Swydd Rutland. Ydy hi\\u2019n bosib i rywbeth mor hen a hynny fod mewn cyflwr da? Dyma beth oedd gan Rhys i\\u2019w ddweud...\\n \\n \\nY Rhufeiniaid\\t\\t\\t\\tThe Romans

Cyflwr\\t\\t\\t\\t\\tCondition\\t\\t

Wedi cael llonydd\\t\\t\\tBeen undisturbed

Goroesi\\t\\t\\t\\t\\tTo survive

Aredig\\t\\t\\t\\t\\tPloughed

Ail gladdu\\t\\t\\t\\tTo rebury

Cofnodi\\t\\t\\t\\t\\tTo record

Y bedwaredd ganrif\\t\\t\\tThe fourth century

Chwalu\\t\\t\\t\\t\\tTo destroy

Gaeafau garw\\t\\t\\t\\tRough winters

Tir sad\\t\\t\\t\\t\\tStable land

Caryl \\u2013 Professor Llusern 30.11\\n \\nBeth fydd yn digwydd i\\u2019r mosaig hwnnw tybed, fydd e\\u2019n cael ei ail gladdu fel roedd Rhys yn ei awgrymu? Cawn weld on\\u2019d ife?\\nCafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio \\xe2 chonsuriwr nos Fercher o\\u2019r enw Professor Llusern. Mae e\\u2019n dod o Fostyn yn Sir y Fflint a gofynnodd Caryl iddo fe pa mor anodd yw hi i ymuno \\xe2\\u2019r Magic Circle\\u2026.neu\\u2019r Cylch Hud\\u2026..\\n \\n Consuriwr\\t\\t\\t\\t\\tMagician

Hen ddywediad\\t\\t\\t\\t\\tOld saying

Cyfrinachau hud a lledrith\\t\\t\\tMagic secrets

Enwebu\\t\\t\\t\\t\\t To nominate

Dros dro\\t\\t\\t\\t\\t Temporary

Wir o ddifri\\t\\t\\t\\t\\tReally serious

Bore Cothi - Cwn Selsig 30.11\\n \\nWel dyna ni, os dych chi\\u2019n ffansio bod yn gonsuriwr, dych chi gwybod beth i\\u2019w wneud nawr.\\nErbyn bore Mercher roedd criw Shan Cothi wedi dod yn \\xf4l o\\u2019r Ffair Aeaf yn Llanelwedd i\\u2019r stiwdio yng Nghaerfyrddin lle cafodd gyfle i siarad ag Emma Hughes sydd yn berchennog ar Seth. Ci Daschund yw Seth ag Emma yw sefydlydd Cymdeithas C\\u0175n Selsig Gogledd Cymru, a gofynnodd Shan iddi hi\\u2018n gynta faint o aelodau sydd yn y gymdeithas\\n \\nSefydlydd\\t\\t\\t\\t\\tFounder

Perchennog\\t\\t\\t\\t\\tOwner

Mae gen i ofn\\t\\t\\t\\t\\tI\\u2019m afraid

Pryderon\\t\\t\\t\\t\\t Worries

Gweddol rhwydd\\t\\t\\t\\tEitha hawdd

\\nIfan Evans \\u2013 Llanbed 1.12\\n \\nRamp i g\\u0175n selsig \\u2013 dyna dda on\\u2019d ife?\\nAeth criw Rhaglen Ifan Evans allan o\\u2019r stiwdio ddydd Iau a mynd draw i Lanbedr Pont Steffan gan ei bod yn noson siopa hwyr y dref. Cafodd Ifan gyfle i holi Meinir Evans gwraig leol ddechreuodd busnes pobi yn ystod y cyfnod clo. Gofynnodd Ifan iddi hi\\u2019n gynta beth yn union yw\\u2019r busnes\\n \\nPobi\\t\\t\\t\\t\\t\\t To bake

Y cyfnod clo\\t\\t\\t\\t\\tLockdown

Syndod o dda\\t\\t\\t\\t\\tSurprisingly well

Shwd (sut) fraint\\t\\t\\t\\tSuch a privilege\\t\\t\\t\\t\\t

Cacs\\t\\t\\t\\t\\t\\tCacennau

Ffili\\t\\t\\t\\t\\t\\t Methu

Ieuenctid\\t\\t\\t\\t\\tYouth

Deugain mlynedd\\t\\t\\t\\t40 years

Ddim digon o blwc\\t\\t\\t\\tNot brave enough

Danteithion\\t\\t\\t\\t\\tDelicacies

'