Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022

Published: June 29, 2022, 1 p.m.

b"

Beti a'i Phobol Aled Roberts

Ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu...

Heriau\\t\\t\\t-\\t\\tChallenges

Hwyrach\\t\\t\\t-\\t\\tEfallai\\t\\t\\t\\t

Arweinydd cyngor\\t-\\t\\tCouncil leader

Hamddenol\\t\\t-\\t\\tLeisurely

Gwthio\\t\\t\\t-\\t\\tTo push

Awyddus\\t\\t\\t-\\t\\tEager

Adlewyrchu\\t\\t-\\t\\tTo reflect

Cryfder\\t\\t\\t-\\t\\tStrength

Twf aruthrol\\t\\t-\\t\\tHuge growth

Drwy gyfrwng\\t\\t-\\t\\tThrough the medium of

...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar \\xf4l Aled Roberts.

Aled Hughes ac Meurig Rees Jones

Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson \\xe2 Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun am gysylltiad y canwr a'r ardal dros y blynyddoedd

Rheolwr Lleoliadau\\t\\t-\\t\\tLocation Manager\\n\\t\\t\\t\\t\\nY cyswllt\\t\\t\\t\\t-\\t\\tThe contact

Bythynnod hunanarlwyo\\t-\\t\\tSelf catering cottages

Ar les byr\\t\\t\\t\\t-\\t\\tOn a short lease

Gatws\\t\\t\\t\\t-\\t\\tGatehouse

A dyna i chi hanes pobl enwog yn mwynhau gwyliau moethus yn y chwedegau ym Mhortmeirion.

GBYH Campio

Math gwahanol iawn o wyliau sy nesa wrth i Hanna Hopwood holi beth sy'n gwneud bywyd yn haws wrth fynd i wersylla. Kelly Morris sy'n esbonio beth ydy ap\\xeal y math yma o wyliau...

Moethus\\t\\t\\t-\\t\\t\\tLuxurious

Gwersylla\\t\\t-\\t\\t\\tCamping

Cyfeillgar\\t\\t\\t-\\t\\t\\tFriendly

Mas tu fas\\t\\t-\\t\\t\\tOutside

Dw i'n dwlu mynd\\t-\\t\\t\\tDw i wrth fy modd yn mynd

Chwarae aboiti\\t-\\t\\t\\tPlaying around

Sbort\\t\\t\\t-\\t\\t\\tHwyl

Hala amser\\t\\t-\\t\\t\\tTreulio amser

Llanw\\t\\t\\t-\\t\\t\\tLlenwi

Ia, mae gwersylla'n sbort, tydy, ond i'r tywydd fihafio ynde?

BORE COTHI CROQUET 2206

Mae'n debyg fod y g\\xeam croquet wedi dod yn fwy poblogaidd yn dilyn cyfresi fel Bridgerton ac un o'r rhai sy wedi dechrau chwarae'r g\\xeam ydy Davyth Fear o Lanrug ger Caernarfon. Aeth Davyth a'i wraig, Rhiannon, i ddiwrnod agored yng nghlwb croquet Llanfairfechan yn 2018 a phenderfynu rhoi tro arni a dyn nhw ddim wedi edrych yn \\xf4l ers hynny.

Rheolau\\t\\t\\t-\\t\\tRules

Dyfeisio\\t\\t\\t-\\t\\tDevise

Yr Ymerodraeth Brydeinig\\t-\\tThe British Empire

Cymhleth\\t\\t\\t\\t-\\t\\tComplicated

Naill ai\\t\\t\\t\\t-\\t\\tEither

Hanes croquet yn nhref fach lan y m\\xf4r Llanfairfechan yn fan'na ar Bore Cothi.

DROS GINIO NEIL AC ALED ROSSER

Tad a mab, Neil ac Aled Rosser oedd gwestai dau cyn dau efo Dewi Llwyd. Mae'r ddau yn gerddorion ac mae Aled, y mab, yn byw yn y gogledd ac mae Neil yn byw yng Nghaerfyrddin, ac newydd ymddeol o ddysgu. Dyma i chi ran o'r sgwrs ble maen nhw'n s\\xf4n am effaith y cyfnod clo ar eu bywyd teuluol...

Cerddorion\\t\\t-\\t\\tMusicians

Turnio pren\\t\\t-\\t\\tWoodturning

Rhingt\\t\\t\\t-\\t\\tRhwng

Rhwystredig\\t\\t-\\t\\tFrustrating

Ffili\\t\\t\\t\\t-\\t\\tMethu

Heolydd\\t\\t\\t-\\t\\tFfyrdd

Ddim rhy ff\\xf4l\\t\\t-\\t\\tDdim yn rhy ddrwg

Gweld eisiau\\t\\t-\\t\\tColli

Aelwyd gerddorol\\t-\\t\\tA musical home

Pwysleisio\\t\\t\\t-\\t\\tTo emphasise

A dan ni'n aros efo cerddorion yn y clip nesa. Cafodd Georgia Ruth sgwrs efo'r delynores Catrin Finch.

GEORGIA A CATRIN FINCH\\nMae Catrin wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd efo Seckou Keita, sy'n canu'r Kora, offeryn o Orllewin Affrica. Mae Catrin a Seckou wedi rhyddhau tair albwm gyda'i gilydd. Ond doedd ei phrofiad cynta o gydweithio efo perfformiwr Kora ddim yn un hapus iawn. Toumani Diabat\\xe9 oedd y perfformiwr ac yn Theatr Mwldan, Aberteifi oedd y cyngerdd. Dyma Catrin yn dweud yr hanes...

Telynores\\t\\t\\t-\\t\\tFemale harpist

Offeryn\\t\\t\\t-\\t\\tInstrument

Yn llythrennol\\t\\t-\\t\\tLiterally

I ystyried\\t\\t\\t-\\t\\tConsidering

Parhau\\t\\t\\t-\\t\\tTo continue

"