Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 24ain 2022

Published: May 24, 2022, 1 p.m.

b'

Dei Tomos a Gwyn Elfyn\\nYr actor Gwyn Elfyn oedd gwestai Dei Tomos wythnos diwetha. Fo oedd Densil yn Pobol y Cwm am flynyddoedd ac yn siarad efo acen de Cymru ar y rhaglen. Ond yn y clip nesa dan ni\'n clywed Gwyn yn sgwrsio efo Dei Tomos efo acen ogleddol Blaenau Ffestiniog. Pa acen ydy yr un naturiol iddo fo felly?

Tafodiaith\\t\\t-\\t\\tDialect\\nCyfeillion\\t\\t-\\t\\tFfrindiau\\nHonni\\t\\t-\\t\\tTo claim\\nLwcus ydy Gwyn Elfyn ynde, yn medru siarad yn naturiol yn nhafodiaith y de a\'r gogledd.

Gwenno Williams Tafarn yr Heliwr \\nDydd Llun cafodd Aled Hughes sgwrs efo Gwenno Williams o dafarn gymunedol Yr Heliwr yn Nefyn. Roedd pobl Nefyn wedi codi arian i brynu\'r adeilad ac i ail-wneud rhannau o\'r dafarn er mwyn ei chael yn barod ar gyfer y cyhoedd. Awgrymodd Aled wrth Gwenno bod stori yr Heliwr yn stori o gymuned yn uno ac yn llwyddo a dyma oedd ymateb Gwenno...\\nCymuned\\t\\t-\\t\\tCommunity \\nHwb\\t\\t\\t-\\t\\tA boost\\nGwireddu\\t\\t-\\t\\tTo make it happen\\nAil-wneud\\t-\\t\\tTo redo\\nGwirfoddoli\\t-\\t\\tTo volunteer\\nBudd mawr\\t-\\t\\tA great benefit\\n Gwobr\\t\\t-\\t\\tPrize\\nYsbrydoliaeth\\t-\\t\\tInspiration\\nMentrau cymunedol\\t-\\tCommunity enterprises\\nCyd-weithio\\t-\\t\\tTo co-operate\\nAballu\\t\\t-\\t\\tAnd so on

Mae hi\'n braf iawn gweld yr holl fentrau cymunedol yma\'n llwyddo yn tydy?

Aled Hughes Dr Who \\nDaeth newyddion cyffrous am y gyfres Doctor Who wrth i\'r doctor nesa gael ei enwi, sef yr actor Ncuti Gatwa. Cafodd Ncuti ei eni yn Rwanda a\'i fagu yn yr Alban. Mae\'n enwog am ei ran yn y gyfres boblogaidd Sex Education, a fo fydd yn chwarae rhan Doctor rhif un deg pedwar yn y gyfres eiconig. Mae Alun Parrington yn "Whovian" sef un o ffans enfawr y gyfres, a dyma fo\'n s\\xf4n wrth Aled Hughes am Ddoctoriaid y gorffennol...

Cyfres\\t\\t\\t-\\tSeries\\nCyfnod\\t\\t\\t-\\tPeriod (of time)\\nDal fy nychymyg\\t-\\tTo catch the imagination\\nGoro\\t\\t\\t-\\tGorfod\\nPennod\\t\\t\\t-\\tEpisode\\nGadael argraff\\t\\t-\\tTo leave an impression\\nGwatsiad\\t\\t\\t-\\tEdrych ar\\nCenhedlaeth\\t\\t-\\tGeneration\\nAlun Parrington oedd hwnna\'n amlwg yn edrych mlaen at gyfres newydd Dr Who.

Bore Cothi maeth bwyd\\nMae Angharad Griffiths wedi cymhwyso fel therapydd maeth ar \\xf4l tair blynedd o astudio ac mae hi wedi agor clinig maeth i ddysgu pobl am fwyd, ac yn arbennig felly pwysigrwydd bwyta bwyd maethlon. Dyma glip o Angharad yn esbonio wrth Shan Cothi pa fath o fwydydd sy\'n rhai maethlon...\\nCymhwyso\\t-\\t\\tTo qualify\\nMaeth\\t\\t-\\t\\tNutrition\\nMaethlon\\t\\t-\\t\\tNutritious\\nYn dueddol o\\t-\\t\\tTend to\\nYmddangos\\t-\\t\\tTo appear \\nCynhwysion\\t-\\t\\tIngredients\\nLleihau\\t\\t-\\t\\tTo reduce\\nMo \'yn\\t\\t-\\t\\tEisiau

Bore Cothi Ffrwythau Tun \\nTybed fasai Angharad yn ystyried bod tun o peaches, neu eirin gwlanog, yn fwyd maethlon? Wel mae\'n bosib cawn ni\'r ateb yn y clip nesa ma o raglen Bore Cothi, lle mae\'r cogydd Nerys Howell yn cymharu ffrwythau tun efo ffrwythau ffres...\\nHylif\\t\\t\\t\\t-\\tLiquid\\nTwymo i dymheredd\\t-\\tWarm to tempretature\\nTriniaeth gwres\\t-\\tHeat treatment\\nToddi\\t\\t\\t-\\tTo melt\\nBraster\\t\\t\\t-\\tFat\\nMwynau\\t\\t\\t-\\tMinerals\\nAmrywio\\t\\t\\t-\\tTo vary

Diddorol ynde, manteision ar y ddwy ochr yn fan\'na wrth gymharu ffrwythau ffres efo ffrwythau tun.

Beti a\'i Phobol Russell Isaac \\nRoedd Russell Isaac yn arfer gweithio fel newyddiadurwr ond erbyn hyn mae o\'n gweithio efo\'r Cenhedloedd Unedig. 40 mlynedd yn \\xf4l aeth Russel draw i ochr arall y byd ar ran rhaglen newyddion Cymraeg ITV - Y Dydd- ac ar ran y rhaglen Saesneg Report Wales, i adrodd am ryfel Ynysoedd y Malfinas. Dyma fo\'n s\\xf4n wrth Beti George sut gaeth o wybod ei fod yn gorfod mynd draw yno...\\nY Cenhedloedd Unedig\\t-\\tUnited Nations\\nLlynges\\t\\t\\t\\t-\\tNavy\\nAr fin\\t\\t\\t\\t-\\tAbout to\\nCysylltiadau\\t\\t\\t-\\tConnections\\nYmchwilydd\\t\\t\\t-\\tResearcher\\nMynnu\\t\\t\\t\\t-\\tTo insist\\nArchentwyr\\t\\t\\t-\\tArgentinians\\nGorchymyn\\t\\t\\t-\\tA command\\nCyfarwyddyd\\t\\t\\t-\\tInstruction

'