Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 17fed 2022

Published: May 17, 2022, 1 p.m.

b"

Beti a Dr Sara Louise Wheeler \\nMae'r Dr Sara Louise Wheeler yn dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, ac mae hi'n falch iawn ei bod hi'n siarad efo acen arbennig pentref Rhosllannerchrugog. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa doedd pawb ddim yn hoff o'r acen honno...

Magwraeth\\t\\t-\\t\\tUpbringing\\nTafodiaith\\t\\t\\t-\\t\\tDialect\\nHerio\\t\\t\\t-\\t\\tTo challenge

Os dach chi isio gwybod rhagor am hanes diddorol Sara mi fedrwch chi wrando ar y sgwrs yn llawn ar bodlediad Beti a'i Phobol.

Aled Hughes a Grant Peisley \\nMae Grant Peisley yn chwarae criced i d\\xeem dros 50 oed Cymru er ei fod yn dod o Awstralia'n wreiddiol. Mae o'n byw yng Nghymru ers dros ugain mlynedd erbyn hyn, ac wedi dysgu Cymraeg. Mae criced yn ofnadwy o bwysig i bobl Awstralia - felly sut deimlad ydy chwarae dros Gymru i Grant tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes...

Rhyngwladol\\t\\t\\t-\\t\\tInternational\\nCwpan y Byd\\t\\t\\t-\\t\\tWorld Cup\\nErs yn ddim o beth\\t\\t-\\t\\tSince being a small child

Braf clywed Grant yn disgrifio ei hun fel Cymro Newydd yn tydy, a dwi'n siwr bydd o'n falch iawn o fod yn rhan o d\\xeem Cymru yn erbyn Awstralia.

Erin Bryfdir \\nMae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 10 oed eleni ac mae'r coleg wedi medru helpu llawer o bobl i ddilyn cyrsiau yn y prifysgolion ac mewn addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r rheini ydy Erin Bryfdir sydd yn Sister yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a dyma hi'n s\\xf4n am sut wnaeth cyflwyniad gan y coleg, pan oedd hi yn yr ysgol uwchradd, newid ei bywyd.

Drwy gyfrwng\\t\\t-\\t\\tThrough the medium of\\nCyflwyniad\\t\\t-\\t\\tPresentation\\nDisgybl\\t\\t\\t-\\t\\tPupil\\nMegis dechrau\\t-\\t\\tJust starting\\nYsbrydoli\\t\\t\\t-\\t\\tTo inspire\\nGradd\\t\\t\\t-\\t\\tDegree\\nYsgoloriaeth Cymhelliant\\t-\\tIncentive scholarships\\nLlysgennad\\t\\t-\\tAmbassador\\nMantais\\t\\t\\t-\\tAdvantage\\nDarlithoedd\\t\\t-\\tLectures

Erin Bryfdir oedd honna , un o'r miloedd sydd wedi manteisio ar y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rob Malcolm Jones cocktails. \\nFaint ohonoch chi sy'n mwynhau coct\\xeals? Mae na gymaint o wahanol rai yn does? Mae Rob Malcolm Jones yn byw yn Efrog Newydd ac yn nabod ei goct\\xeals yn dda. Shan Cothi gaeth sgwrs efo fo fore Mawrth

Efrog Newydd\\t\\t-\\t\\tNew York\\nFfurfiol\\t\\t\\t-\\t\\tFormal\\nO ddifri\\t\\t\\t-\\t\\tSeriously\\nBodoli\\t\\t\\t-\\t\\tTo exist\\nPoblogaidd\\t\\t-\\t\\tPopular\\nCynrychioli\\t\\t-\\t\\tTo represent\\nEgniol\\t\\t\\t-\\t\\tEnergetic

Wel dyna ni - y Dirty Martini amdani!

GBYH - Eilir Owen Griffiths\\nMae iechyd meddwl wedi dod mwy i'r amlwg ers y cyfnod clo, ac roedd hi'n wythnos iechyd meddwl wythnos diwetha. Cafodd Hanna Hopwood gwmni yr arweinydd c\\xf4r a'r cerddor Eilir Owen Griffiths fuodd yn siarad am y tro cyntaf yn gyhoeddus am ei siwrne iechyd meddwl bersonol.

Arweinydd c\\xf4r\\t\\t-\\t\\tChoir conductor\\nCerddor\\t\\t\\t-\\t\\tMusician\\nYn gyhoeddus\\t\\t-\\t\\tPublicly\\nY lle tywylla(f)\\t\\t-\\t\\tThe darkest place\\nEithafoedd\\t\\t-\\t\\tExtremes\\nCreadigol\\t\\t\\t-\\t\\tCreative\\nYr wythnos ganlynol\\t-\\t\\tThe following week\\nCyfansoddi\\t\\t-\\t\\tComposing

Yr arweinydd c\\xf4r a'r cerddor Eilir Owen Griffiths yn siarad yn bersonol iawn am ei sefyllfa yn ystod y cyfnod clo.

Bore Cothi - Hot Cakes\\nMae na gyfres newydd ar BBC3 - Hot Cakes- ac mae dau o Gaerdydd, Gareth a'i bartner Ryan o gwmni Let them See Cake yn serennu yn y gyfres. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo'r ddau a chanfod bod Ryan wedi dysgu Cymraeg dros y cyfnod clo ac mai dyma oedd ei gyfweliad cynta yn Gymraeg..

Cyfres\\t\\t\\t-\\t\\tSeries\\nCanfod\\t\\t\\t-\\t\\tTo discover\\nCyfweliad\\t\\t-\\t\\tInterview\\nJoio mas draw\\t\\t-\\t\\tReally enjoing

"