Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 28ain 2022

Published: Jan. 28, 2022, 5 p.m.

b"

1.\\tAled Hughes a Melanie Owen

Melanie Carmen Owen, sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, oedd gwestai Aled Hughes bore Llun diwetha. Melanie fydd yn cyflwyno cyfres newydd o Ffermio ar S4C ond mae hi hefyd wedi mentro i fyd y 'stand-up'. Sut digwyddodd hynny tybed?

Caredig\\t\\tKind\\nAwgrymu\\t\\tTo suggest\\nMenywod \\tMerched\\nBeirniadu\\t\\tTo adjudicate\\nYn fuddugol\\tVictorious\\nProfiadau personol\\tPersonal experiences\\nPerthnasol\\t\\tRelevant\\nHer\\t\\t\\tA challenge\\nCynulleidfa\\tAudience\\nAddasu\\t\\tTo adapt

2.\\tBore Cothi - Muhammad Ali

Melanie Owen oedd honna'n esbonio sut dechreuodd hi weithio ym myd 'stand-up'. Ar Ionawr 17 eleni basai Muhammad Ali wedi dathlu ei benblwydd yn 80 oed.

Un gafodd cwrdd \\xe2'r dyn ei hun, oedd Hywel Gwynfryn yn \\xf4l yn 1966 draw yn LLundain, pan oedd Hywel yn gweithio fel gohebydd i'r rhaglen Heddiw. Roedd Cassius Clay (fel roedd Muhammad Ali ar y pryd) yn Llundain yn barod i focsio yn erbyn Henry Cooper, a chafodd e anrheg arbennig gan Hywel..

Syllu\\t\\tStaring\\nTawelwch\\tSilence\\nCerddi\\t\\tPoems\\nPencampwr Bocsio'r Byd\\tBoxing World Champion\\nNa welwyd ei debyg o'r blaen\\tNever seen his like before\\nWrth-law\\t\\tNearby

3.\\tGwneud Bywyd yn Haws - Caris Hedd Bowen

Hywel Gwynfryn yn s\\xf4n wrth Shan Cothi am ei sgwrs gyda Cassius Clay, neu Mohammed Ali. Roedd y bocsiwr hwnnw'n enwog am ei farddoniaeth gyda llinellau fel:\\nFloat like a butterfly, sting like a bee.\\nHis hand can't hit what his eyes can't see.\\nTybed ai barddoniaeth TH Parry Williams oedd wedi ei ysbrydoli?

Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws cafodd Hanna Hopwood gwmni menyw arbennig sydd wedi wynebu sawl her gorfforol a meddyliol. Ar \\xf4l iddi wella o ganser Hogkins Lymphoma roedd Caris Hedd Bowen yn teimlo'n ddiolchgar, ac yn teimlo fel tasai hi'n profi bywyd am y tro cynta. Dyma hi'n disgrifio ei theimladau wrth Hanna...

Ysbrydoli\\t\\tTo inspire\\nDiolchgar\\t\\tThankful\\nCyfweliadau\\tInterviews\\nMas y bac\\tAllan i'r cefn\\nGwynto\\t\\tArogli\\nYn grac\\t\\tYn flin

4.\\tAr y Marc Sadwrn - Dave Rogers

Caris Hedd Bowen yn ysbrydoli Hanna Hopwood wrth rannu ei stori. I glywed y bennod yn llawn ewch draw i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.

Mae Dave Rogers yn byw yng Nghaerloyw ac wedi dysgu Cymraeg, a fe sy'n cynnal cyfri Twitter newydd Clwb P\\xeal-droed Casnewydd @YrAlltudion. Mae'r cyfrif yn ffordd o rannu newyddion am y t\\xeem, y canlyniadau ac ati, ac hynny i gyd drwy'r Gymraeg. Mae llawer o gefnogwyr Casnewydd yn ddysgwyr ac mae Dave yn trio dysgu termau p\\xeal-droed Cymraeg i'r dilynwyr, fel esboniodd e wrth Dylan Jones ar Ar y Marc...

Pennod \\t\\tEpisode\\nCaerloyw\\t\\tGloucester\\nYr Alltudion\\tThe Exiles\\nCanlyniadau\\tResults\\nCefnogwyr\\tFans\\nDilynwyr\\t\\tFollowers\\nTad-cu\\t\\tTaid

5.\\tIfan Evans a Mari Gwilym

Dave Rogers yn rhoi gwasanaeth Gymraeg i gefnogwyr Casnewydd - ac i'w fab hefyd.

Mae Ifan Evans wedi s\\xf4n sawl tro bod ofn llygod bach arno fe ac roedd e wedi dychryn pan welodd e lygoden bach yn y t\\u0177. Ar ei raglen ddydd Mawrth clywon ni hanes gan Mari Gwilym am gael llygod bach yn ei th\\u0177 hi.

Olion\\t\\tTraces\\nBaw llygoden\\tMouse droppings\\nHogia bach!\\tDear me!\\nCofi Dre\\t\\tPerson o Gaernarfon\\nHadau\\t\\tSeeds\\nLlygoden bengron goch\\t\\tBank vole\\nCael gwared ar\\tTo get rid of\\nAnghenfil\\t\\t\\tMonster

6.\\tBore Cothi a Llew Richards

Mari ac Ifan yn trafod llygod yn fan'na.\\n \\nMae Llew Richards sy'n 17 oed, a'i frawd Bryn sydd yn 15, wedi cychwyn menter newydd ar ddechrau blwyddyn newydd - rhentu cae er mwyn i bobol gael dod \\xe2'u c\\u0175n yno i redeg a chwarae. Dyma Llew yn s\\xf4n wrth Shan Cothi am y fenter Newydd...

Dere\\t\\t\\tTyrd\\t\\t\\t\\t\\nWedi dod i glawr\\tHas come about\\t\\nNi sy berchen e\\tWe own it\\t\\t\\t\\nGwartheg\\t Cattle\\nTennyn\\t\\t\\tLead\\nLlanw lan\\t\\t Welling up\\nRhyddid\\t\\t Freedom

"