Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 3ydd 2023

Published: Oct. 3, 2023, 1 p.m.

b'

Pigion Dysgwyr \\u2013 Heather Jones\\n \\n \\nMae\\u2019r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda\\u2019r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi\\u2019n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu\\u2019n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu

\\nAmlwg\\t\\t\\t\\tProminent

Cyhoeddi \\t\\t\\t\\tAnnounce

Ymennydd\\t\\t\\t\\tBrain

Yn gyfangwbl\\t\\t\\tCompletely

Tinc\\t\\t\\t\\t\\tTone

Pigion Dysgwyr \\u2013 Johnny Tudor

\\nMae\\u2019n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on\\u2019d yw hi? \\nDysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a\\u2019r canwr Johnny Tudor, ac roedd e\\u2019n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i\\u2019w holi. Dyma fe gydag un stori fach o\\u2019i yrfa...\\n \\nDiddanwr\\t\\t\\t\\t\\tEntertainer

Dynwared\\t\\t\\t\\t\\tTo impersonate

Llwyfan\\t\\t\\t\\t\\tStage

Pigion Dysgwyr \\u2013 Dinbych y Pysgod

\\nA dw i\\u2019n si\\u0175r bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o\\u2019i yrfa hir ym myd \\nadloniant. \\nMae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi\\u2019n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf\\u2026\\u2026

\\nDinbych y Pysgod\\t\\t\\t\\tTenby

Bardd\\t\\t\\t\\t\\t\\tPoet

Hala \\t\\t\\t\\t\\t\\tTreulio

Dim syndod\\t\\t\\t\\t\\tNo surprise

Yn syth bin\\t\\t\\t\\t\\tStraight away

Unigryw\\t\\t\\t\\t\\tUnique

Haenau\\t\\t\\t\\t\\tLayers

Tirwedd\\t\\t\\t\\t\\tLandscape

Llanw\\t\\t\\t\\t\\t\\tTide

Cyfnewidiol\\t\\t\\t\\t\\tChangeable

Awen\\t\\t\\t\\t\\t\\tMuse

Pigion Dysgwyr \\u2013 Lliw Ddall

\\nWel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i\\u2019r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo.\\nMae Owen Jones o Gaerdydd yn un o\\u2019r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn \\xf4l gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy\\u2018n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha tr\\xefodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau \\u2026.\\n \\nCyfraniad gwerthfawr \\t\\t\\tA valuable contribution

Lliwddall\\t\\t\\t\\t\\tColour blind

Yn \\xf4l \\t\\t\\t\\t\\t\\tAccording to

Gwyddonwyr\\t\\t\\t\\t\\tScientists\\t

Cywiro eu golwg\\t\\t\\t\\tCorrect their eyesight\\t\\t\\t

Llachar\\t\\t\\t\\t\\tBright\\t\\t\\t\\t

Sefyll mas\\t\\t\\t\\t\\tTo stand out

Cyfoethog\\t\\t\\t\\t\\tRich(colour)

Ffug\\t\\t\\t\\t\\t\\tFake

Pigion Dysgwyr \\u2013 1973

\\nWel newyddion da i\\u2018r rhai sy\\u2019n lliwddall on\\u2019d ife \\u2013 mae\\u2019n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio!\\n \\nMae\\u2019r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri\\u2019n flwyddyn arbennig ym myd gwneud\\nffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy\\u2026..\\n \\n Cyfnod\\t\\t\\tPeriod of time

Hogiau\\t\\t\\tBechgyn

Tywyll\\t\\t\\t\\tDark

Agwedd\\t\\t\\tAttitude

Eithafol\\t\\t\\tExtreme

Naws \\t\\t\\t\\tMood

Anhygoel\\t\\t\\tIncredible

\\nPigion Dysgwyr \\u2013 Max Boyce

\\nDion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina\\u2019n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau.\\nDdydd Mercher diwetha roedd y canwr a\\u2019r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O\\u2019Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy\\u2019n ei adnabod e\\u2019n dda\\u2026.\\n \\nCymuned\\t\\t\\t\\tCommunity

Sgwrs ddifyr\\t\\t\\t\\tAn interesting conversation

Ymwybodol\\t\\t\\t\\tAware

Pwysigrwydd\\t\\t\\t\\tImportance

'