Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 5ed 2022

Published: April 5, 2022, 1 p.m.

b"

Post Prynhawn - Beryl y Nyrs

Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ...\\nCleifion\\t\\t-\\t\\tPatients\\nTriniaethau\\t-\\t\\tTreatments\\nY gweddill\\t-\\t\\tThe rest\\nDatblygu\\t\\t-\\t\\tTo develop\\nPennaeth\\t\\t-\\t\\t Head\\nSgileffeithiau\\t-\\t\\tSide-effects

A phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde?

Beti a Beks

Beks - Rebekah James oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Roedd Beks yn arfer cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Hong Kong. Dyma i chi ran o'r sgwrs efo Beti ble mae Becks yn esbonio pam gwnaeth hi werthu ei th\\u0177, a'i char a rhoi'r gorau i'w gyrfa efo'r BBC ugain mlynedd yn \\xf4l....\\nCyflwyno\\t\\t-\\t\\tTo present\\nRhoi'r gorau i\\t-\\t\\tTo give up\\nCwympo\\t\\t-\\t\\tSyrthio\\nAnhygoel\\t\\t-\\t\\tIncredible\\nDelfrydol\\t\\t-\\t\\tIdeal\\nYn llythrennol\\t-\\t\\tLiterally\\nEnfawr\\t\\t-\\t\\tHuge\\nYsgariad\\t\\t-\\t\\tDivorce\\nGo gyhoeddus\\t-\\t\\tIn the public eye

...ac mae Beks yn dathlu ei phenblwydd yn 50 eleni a dw i'n si\\u0175r bydd yna dipyn o ddathlu draw yn Hong Kong.

Aled Hughes - Edina a Lin

Y Gymraeg sydd yn cysylltu Edina Potts-Clement o Hwngary a Lin Dodd o Tsieina ac mae'r ddwy erbyn hyn yn gweithio yn yr un ysgol - Ysgol Gymraeg Caerffili. Gofynnodd Aled Hughes i'r ddwy ohonyn nhw ar ei raglen bore Mawrth pam wnaethon nhw ddysgu Cymraeg

Addysg Cyfrwng Cymraeg\\t-\\tWelsh medium education

Cymraeg yw iaith y dyfodol - clywch clywch Lin.

Bore Cothi - Rich Pooley

Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes fore Iau a buodd hi'n sgwrsio efo Richard Pooley sy'n byw yn Shotton yn Sir y Fflint, ond sy'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 8 mlynedd. Mae Richard wedi dechrau Clwb Siarad Shotton i roi cyfle i ddysgwyr ac i siaradwyr y Gymraeg yr ardal ddefnyddio'r iaith \\nYmdrech\\t\\t\\t-\\t\\t\\tAttempt\\nCylchdaith\\t\\t-\\t\\t\\tCircuit\\nAddas\\t\\t\\t-\\t\\t\\tAppropriate\\nProfiadau\\t\\t\\t-\\t\\t\\tExperiences\\nCefnogol\\t\\t\\t-\\t\\t\\tSupportive

Syniadau gwych yn fan'na gan Richard Pooley am sut i roi cyfleoedd i bobl ardal Shotton ddefnyddio eu Cymraeg.

Ar Blat - Owain Wyn Evans

Buodd Beca Lyne-Pirkis yn siarad efo Owain Wyn Evans, y cyflwynydd tywydd, ac os dach chi'n cofio llwyddodd Owain i chwarae'r drymiau am 24 awr er mwyn codi arian i Plant Mewn Angen y llynedd. Dyma Owain yn s\\xf4n am sut oedd drymio wedi bod o help iddo fo mewn cyfnodau anodd pan oedd o'n ifanc...\\nCyfnodau\\t\\t -\\t\\t\\tPeriods of time\\nHoyw\\t\\t -\\t\\t\\tGay\\nFfonau symudol -\\t\\t\\tMobile phones\\nEstron\\t\\t -\\t\\t\\tForeign

Owain Wyn Evans y cyflwynydd tywydd oedd hwnna'n sgwrsio efo Beca Lyne-Pirkis.

Byd Iolo \\nAeth Iolo Williams ar daith i Allerdale yng ngogledd yr Alban - rhyw awr a hanner i'r gogledd o Inverness ac mi aeth o \\xe2 ni, gwrandawyr Radio Cymru, ar y daith efo fo.....

Gwarchodfa\\t-\\t\\t\\tNature reserve\\t\\nErwau\\t\\t-\\t\\t\\tAcres\\nHir dymor\\t-\\t\\t\\tLong term\\nAil-wylltio\\t\\t-\\t\\t\\tRewilding\\nYsgubor\\t\\t-\\t\\t\\tBarn\\nBaw\\t\\t\\t-\\t\\t\\tExcrement\\nUcheldir\\t\\t-\\t\\t\\tHighlands\\nTylluan\\t\\t-\\t\\t\\tOwl\\nNythu\\t\\t-\\t\\t\\tTo nest\\nHela\\t\\t\\t-\\t\\t\\tTo hunt

"