Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022

Published: Feb. 4, 2022, 5 p.m.

b"

1. Beti a'i Phobol a Rebecca Roberts

Buodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n s\\xf4n wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo...

Anabledd \\t- \\tDisability\\nYmgyrchu\\t-\\tTo campaign\\nLlywodraeth Cymru -\\tThe Welsh Government\\nAwdurdodi\\t-\\tTo authorize\\nArbenigol\\t -\\tSpecialized\\nByd o wahaniaeth - A world of difference\\nDeisebu\\t -\\tTo petition\\nArbenigedd -\\tExpertise\\nGwaith ymchwil -\\t Research\\nDadlau fy achos -\\t Arguing my case\\nRhoi cynnig arni - \\t To give it a go

2. Cymru Carwyn Iau efo Max Boyce

Rebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch.\\nYn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwyn Jones yn trafod y pethau sy'n gwneud Cymru'n wlad mor arbennig, yn enwedig felly pobl a hanes y wlad. Yn y clip nesa mi gawn ni glywed Carwyn yn sgwrsio gydag un o drysorau mwya Cymru, Max Boyce.

Cymuned\\t-\\tCommunity\\nSylw\\t-\\tAttention\\nDwlu bod\\t-\\tWrth fy modd bod\\nHollol lofaol -\\tPredominantly coalmining\\nPrydferth\\t-\\tBeautiful\\t\\t\\t\\t\\nMo'yn\\t-\\tEisiau

3. Aled Hughes a Mirain Iwerydd

Carwyn Jones oedd hwnna'n sgwrsio gyda Max Boyce. \\nMi roedd Mr Urdd yn gan mlwydd oed wythnos diwetha ac mi lwyddodd yr Urdd i ddathlu'r pen-blwydd mewn steil drwy dorri record y byd am y nifer mwya o fideos o bobl yn canu'r un g\\xe2n sef Hei Mistar Urdd. Bore Mercher mi roedd y cyflwynydd Mirain Iwerydd yn sgwrsio efo Aled Hughes am y cyfleoedd mae hi wedi eu cael efo'r Urdd gan gynnwys taith i Batagonia. Dyma Mirain yn s\\xf4n am y daith arbennig honno...

Cyflwynydd\\t-\\tPresenter\\nO bob cwr\\t-\\tFrom every corner\\nY Wladfa\\t\\t-\\tThe Welsh settlement in Patagonia\\nDiolchgar\\t\\t-\\tThankful\\nCyffelyb\\t\\t-\\tEquivalent\\nHala ni mas\\t-\\tAnfon ni allan\\nLlwyfan\\t\\t-\\tStage\\nLledaenu \\t-\\tSpread\\nNeges Ewyllys Da -\\tThe Peace and Good Will Message\\nCyfrinach\\t\\t-\\tSecret\\nYmwybodol\\t-\\tAware

4. Betsan Powys ac Owain Wyn Evans

Mirian Iwerydd yn fan'na yn s\\xf4n am rai o'r pethau pwysig mae'r Urdd yn ei wneud. Mae Owain Wyn Evans yn gyfarwydd wrth gwrs fel cyflwynydd y newyddion a'r tywydd, ond yn ddiweddar mae o hefyd wedi dod yn enwog am ei ddrymio. Ar gyfer Plant Mewn Angen buodd o'n drymio am ddau ddeg pedair awr a chodi swm anhygoel o arian. Dyma fo'n datgelu mewn sgwrs efo Betsan Powys faint o bres yn union a godwyd...

Cyfarwydd\\t\\t-\\tFamiliar\\nPedair awr ar hugain-\\t24 hours\\nAnhygoel\\t\\t\\t-\\tIncredible\\nDatgelu\\t\\t\\t-\\tTo reveal\\nTaw\\t\\t\\t\\t-\\tMai\\nAmlwg\\t\\t\\t-\\tProminent\\nCefnogaeth\\t\\t-\\tSupport\\nAnferth\\t\\t\\t-\\tHuge\\nHer\\t\\t\\t\\t-\\tA challenge\\nFfili\\t\\t\\t\\t-\\tMethu

5. Isio Babi

Tri phwynt wyth miliwn o bunnau- dyna swm anhygoel ynde? Nos Fercher mi glywon ni stori Carys Barratt a'i g\\u0175r, Craig, fuodd yn trio cael babi am flynyddoedd. Mae'r rhaglen yn dilyn hanes Carys dros y misoedd pan oedd hi'n paratoi i gael triniaeth IVF, misoedd o obaith ac o siom. Dyma Carys yn rhoi ychydig o gefndir i ni...

Triniaeth\\t-\\tTreatment\\nCefndir\\t-\\tBackground\\nDi-Gymraeg -\\tDdim yn siarad Cymraeg\\nGofal plant -\\tChildcare\\nFfodus\\t-\\tLwcus\\nLlonni\\t-\\tGwneud yn hapus\\nAr waith\\t-\\tWorking

6. Trystan ac Emma a Mot y ci

Pob lwc i Carys ac i Craig ynde? Ac i orffen , dyma i chi hanes anhygoel Mot y ci, aeth ar goll am 5 wythnos. Aeth Tecwyn Vaughan Jones o Fae Colwyn \\xe2 Mot am dro ond rhywsut aeth y ci ar goll. Ar \\xf4l i Tecwyn chwilio a chwilio efo help cymdogion, drones, yn wir help y gymuned gyfan, o'r diwedd gwelodd neges ar Facebook oedd yn rhoi gobaith iddo fo .....

Mi ddaru \\t\\t-\\tGwnaeth\\nYmateb\\t\\t-\\tResponse\\nWedi crwydro\\t-\\tHad wandered\\nTebygrwydd\\t-\\tSimilarity\\nAnobaith llwyr\\t-\\tSheer hopelessness\\nTraddodiad\\t-\\tTradition\\nDianc\\t\\t-\\tTo escape\\nRhuthro\\t\\t-\\tTo rush\\t\\t\\nSefyll yn stond\\t-\\tStanding still\\nYn cyfarth ac yn llyfu - Barking and licking

"