Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 22ain 2022

Published: Feb. 22, 2022, 2 p.m.

b"

Mali Ann Rees Bore Sul

Bore Sul diwetha roedd yr actores Mali Ann Rees yn sgwrsio efo Betsan Powys am ei bywyd a'i gyrfa. Aeth Mali i goleg drama adnabyddus, ond fel clywon ni yn y sgwrs, doedd y cyfnod yn y coleg ddim yn un hawdd iddi hi.

Adnabyddus\\t\\t-\\t\\tEnwog\\nCyfnod\\t\\t\\t-\\t\\tPeriod (of time)\\nHer\\t\\t\\t -\\t\\tA challenge\\nLan\\t\\t\\t -\\t\\tFyny\\nCyfarwyddwyr\\t\\t-\\t\\tDirectors\\nGoroesi\\t\\t -\\t\\tSurviving\\nSa i'n gwybod\\t\\t-\\t\\tDw i ddim yn gwybod\\nYstyried\\t\\t -\\t\\tTo consider\\nTa beth\\t\\t -\\t\\tBeth bynnag

Da clywed, ynde, bod penderfyniad Mail i ddal ati yn benderfyniad cywir, ac ei bod yn medru gwneud gyrfa i'w hunan fel actores.

Troi'r Tir

Mae Dai Jones yn dod o Gapel Bangor yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n gweithio fel rheolwr fferm Woodlands ger Greenwich yn Llundain. Fferm gymuned yw hon a dyma Dai yn esbonio beth sy'n digwydd ar y fferm ar Troi Tir...

Cymuned\\t\\t-\\t\\tCommunity\\nCyfer\\t\\t-\\t\\tAcre\\nGwenith\\t\\t-\\t\\tWheat\\nGwirfoddolwyr\\t-\\t\\tVolunteers\\nGwartheg\\t-\\t\\tCattle\\nHwch\\t\\t-\\t\\tSow\\nGwair\\t\\t-\\t\\tHay\\nSyndod\\t\\t-\\t\\tA surprise\\nArgraff\\t\\t-\\t\\tImpression\\nPwysau\\t\\t-\\t\\tPressure

Hanes beth sy'n digwydd ar fferm gymuned yn Llundain ar Troi'r Tir yn fan'na.

Beti a Edward Keith Jones

Edward Keith Jones oedd gwestai Beti George, a fo ydy Prif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr 8 mis diwetha mi gafodd salwch difrifol a buodd o yn yr ysbyty am wythnosau. Yn y clip yma mae o'n s\\xf4n am sut mae'r cyfnod hwnnw o salwch wedi newid y ffordd mae o'n edrych ar y byd ac ar y blaned...

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol\\t-\\tNational Trust\\nPrif ymgynghorydd\\t\\t\\t-\\tChief consultant\\nNewid hinsawdd\\t\\t\\t-\\tClimate change\\nDifrifol\\t\\t\\t\\t\\t-\\tSerious\\nLlai o amynedd\\t\\t\\t-\\tLess patience\\nLlewygu\\t\\t\\t\\t -\\tTo faint\\nYmennydd\\t\\t\\t\\t-\\tBrain\\nDynol\\t\\t\\t\\t\\t-\\tHuman\\nAnadlu\\t\\t\\t\\t\\t-\\tTo breathe\\nLlwyth\\t\\t\\t\\t\\t-\\tLoads

Edward Keith Jones oedd hwnna o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn swnio'n benderfynol iawn yn doedd? Beth arall fasech chi'n ddisgwyl gan ddyn ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonyn nhw, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant.

Munud i Feddwl Casia William

Yr awdures a'r bardd Casia William oedd yn rhoi munud i feddwl i ni fore Mercher a buodd hi'n s\\xf4n am y g\\xeam sydd wedi troi'n ffenomenom ar draws y byd - Wordle

Penderfynol \\t\\t\\t-\\t\\tDetermined\\nYn eiddgar\\t\\t\\t-\\t\\tFervently\\nCynifer ohonom\\t\\t-\\t\\tSo many of us\\nWedi cael ein hudo\\t\\t-\\t\\tHave been captivated\\nEhangu\\t\\t\\t -\\t\\tTo expand\\nYn gynyddol anghyfartal\\t-\\t\\tIncreasingly unequal\\t\\t\\nTegwch\\t\\t\\t -\\t\\tFairness\\nMethdalwr\\t\\t\\t-\\t\\tA bankrupt\\nByd-eang\\t\\t\\t -\\t\\tWorldwide\\nCyfiawnder\\t\\t\\t-\\t\\tJustice

Casia William yn rhoi munud i ni feddwl am pa mor anghyfartal ydy'r byd y dyddiau hyn.

Bore Cothi Syr Geraint Evans

Ar Bore Cothi buodd y bas bariton Anthony Stuart Lloyd yn rhoi ychydig o gefndir y canwr byd enwog Syr Geraint Evans fasai wedi dathlu ei ben-blwydd yn gant oed ar Chwefror un deg chwech eleni. Dechreuodd drwy s\\xf4n am y stryd lle cafodd Syr Geraint ei eni - stryd reit enwog a dweud y gwir...

Arweinydd\\t\\t-\\t\\tConductor\\nMenywod\\t\\t\\t-\\t\\tMerched\\nRhyngwladol\\t\\t-\\t\\tInternational\\nYsgrifennydd Cartref\\t-\\tHome Secretary

Rhyfedd ynde, bod cymaint o enwogion wedi cael eu geni mewn un stryd fach yng Nghilfynydd ger Pontypridd.

Bore Cothi Sophie Tuckwood

Arhoswn ni efo Bore Cothi am y clip ola. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Sophie Tuckwood sy'n dod o Nottingham yn wreiddiol ond sy'n byw yn Hwlffordd erbyn hyn. Mae Sophie wedi dysgu Cymraeg cystal fel ei bod wedi dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion, ac fel cawn ni glywed enillodd hi wobr arbennig iawn llynedd

Hwlffordd\\t\\t\\t-\\t\\tHaverfordwest\\nGwobr\\t\\t\\t-\\t\\tAward\\nYr ifanca\\t\\t\\t-\\t\\tY fenga\\nCwympo\\t\\t\\t-\\t\\tSyrthio\\nTrwy gyfrwng\\t\\t-\\t\\tThrough the medium of

"