Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002

Published: Oct. 25, 2022, 12:11 p.m.

b"

BETI A\\u2019I PHOBOL \\nJoe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe\\u2019n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae\\u2019n s\\xf4n am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu\\u2019r iaith\\u2026\\nTreulio amser - To spend time\\nMynd mas - Mynd allan\\nProfiad - Experience\\nMam-gu - Nain\\nCymdeithasol - Sociable\\nGorfodi - To force\\nCefnogol - Supportive\\nBecso - Poeni\\nTrochi - To immerse

ALED HUGHES \\nDim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu\\u2019r iaith ar \\xf4l iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda\\u2019r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi\\u2019n sgwrsio gydag Aled Hughes\\u2026\\nGwahanol - Different\\nTad-cu - Taid

ALED HUGHES \\nCafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu\\u2019r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o\\u2019r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes...\\nOedolyn - Adult\\nTGAU - GCSE\\nAnnog - To encourage\\nGyrfa - Career\\nCyfleoedd Gwaith - Work opportunities\\nBwlch - A gap\\nDywediadau - Sayings

ALED HUGHES\\nBeth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy\\u2019n dod o Awstralia\\u2019n wreiddiol dros ddysgu\\u2019r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi\\u2019n briod \\xe2 Peredur Glyn awdur nofel o\\u2019r enw \\u2018Pumed Gainc y Mabinogi\\u2019 ac mae hi wedi magu ei mab drwy\\u2019r Gymraeg. Dyma hi\\u2019n sgwrsio efo Aled Hughes... \\nIeithyddiaeth - Linguistics\\nBathu term - To coin a phrase\\nSillafu - To spell\\nSeiniau - Sounds\\nClwt - Cewyn\\nLlwglyd - Hungry

BORE COTHI\\nMae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar \\xf4l gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella\\u2019r sgil yma ac erbyn hyn mae hi\\u2019n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. \\nYsgol gynradd - Primary School\\nYsgol Gyfun - Secondary School\\nTrwy gyfrwng - Through the medium of\\nYsgrifenedig - Written\\nSbarduno - To spur

BORE COTHI \\nCafodd Sh\\xe2n Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e\\u2019n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda\\u2019r gwaith...\\nCaergrawnt- Cambridge\\nDaearegydd - Geologist\\nPlentyndod - Childhood\\nDinbych y Pysgod - Tenby\\nDiwydiant - Industry\\nTirwedd - Landscape\\nLlethrau serth - Steep slopes\\nAmrywiaeth - Variety

"