Podlediad Pigion y Dysgwyr 1af o Dachwedd 2022

Published: Nov. 1, 2022, 12:05 p.m.

b"

BORE COTHI \\nBuodd Mari Grug yn cadw sedd Sh\\xe2n Cothi yn gynnes ddechrau\\u2019r wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Eirian Muse o Garmel ger Caernarfon am greu basgedi.\\nDechreuodd diddordeb Eirian mewn basgedi pan gafodd daleb i fynd i weithdy creu basgedi fel anrheg penblwydd tua phum neu chwe blynedd yn \\xf4l.\\nDyma Eirian yn dweud yr hanes\\u2026\\nTaleb - Voucher\\nAr hap - Accidentally\\nHelyg - Willow\\nSir Amwythig - Shropshire\\nCymhwyster - Qualification\\nGwledig - Rural\\nHwb - A boost\\nGwlad yr Haf - Somerset\\nCynnyrch adnewyddadwy - Renewable produce\\nHyblyg - Pliable\\nTrwch - Thickness

BETI A\\u2019I PHOBL\\nEurig Druce ydy Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citro\\xebn yn y Deyrnas Unedig a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae\\u2019n dod o bentref Bethel ger Caernarfon yn wreiddiol a phwy gwell nag Eurig i drafod ceir gyda Beti. Dyma i chi flas ar y sgwrs \\u2026\\nRheolwr Gyfarwyddwr - Managing Director\\nY Deyrnas Unedig - The UK\\nAnferth - Huge\\nCynhyrchu\\u2019n unigol - Individually produced\\nDiwydiant - Industry\\nSylfaen - Foundation\\nTrydanol - Electrical\\nPerthnasol - Relevant

ALED HUGHES \\nRoedd y gr\\u0175p cerddorol HAPNOD yn boblogaidd yn ystod yr 80au. Roedd pedwar aelod o\\u2019r gr\\u0175p - Cefin Roberts, Rhian Roberts, Gwyn Vaughan Jones ac Ann Llwyd. Dyma nhw\\u2019n s\\xf4n wrth Aled Hughes sut cafodd y gr\\u0175p ei ffurfio yn y lle cynta, Ann sy\\u2019n siarad gynta. \\nTywysog - Prince\\nTrefniannau - Arrangements\\nEmynau - Hymns\\nCyfres - Series\\nUnig - Lonely\\nCyhoeddus - Public\\nDere - Tyrd

JONATHAN YN 60\\nMae\\u2019r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 eleni a buodd e\\u2019n edrych yn \\xf4l ar ei fywyd a'i yrfa gyda Sarra Elgan. Dyma fe\\u2019n s\\xf4n am yr adeg pan fuodd ei dad farw, a Jonathan ond yn bedair ar ddeg oed. \\nParatoi - To prepare\\nTwlu - Taflu\\nYn grac - Yn flin\\nLlefain - Cr\\xefo\\nCyfnod - Period\\nMam-gu - Nain

CLONC \\nRoedd yna gystadleuaeth rhyfedd iawn ar Radio Cymru wrth i Radio Clonc gymryd drosodd tonfeddi Radio Cymru nos Fawrth. Dyma i chi \\u201cRichard\\u201d o Gaernarfon yn tr\\xefo ennill gwobr fawr cystadleuaeth Alff a Bet\\u2026\\nRhyfedd - Strange\\nTonfeddi - Wavelength\\nDi o\\u2019m bwys - Dydy o ddim yn bwysig\\nLlythyren - Letter\\nAsiantaeth Gofod - Space Agency\\nTeyrnas - Kingdom\\nMadarch - Mushroom\\nUnigryw - Unique

COFIO \\nCymdeithas oedd thema\\u2019r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy bnawn Sul. Dyma glip o raglen o ddiwedd y ganrif ddiwetha gyda phobl ar draws Cymru, yn hen ac ifanc, yn trafod sut mae cymdeithas a chymuned wedi newid. \\nCymuned - Community\\nRhywsut - Somehow\\nElfen - Element\\nBodoli - To exist\\nY cymoedd - The valleys\\nFawr o neb - Hardly anyone\\nHwn a\\u2019r llall - This and that\\nTlodi - Poverty\\nHela cwningod - Hunting rabbits\\nHwyrach - Efallai\\nParch - Respect\\nWedi darfod - Has ceased to exist

"