Podlediad Dysgu Cymraeg - 27ain o Chwefror 2019

Published: Feb. 27, 2020, 5 p.m.

b"

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Aron Snowsill\\n \\ntherapydd maeth - nutrition therapist\\nmamgu - nain\\ndynolryw - mankind\\ngwyddoniaeth - science\\nuwcholeuo - highlight\\nsymlrwydd - simplicity\\ncyndeidiau - forefathers\\ndoethineb - wisdom\\nanaleiddio - analizing\\n \\nMae Aron Snowsill yn gweithio fel therapydd maeth, sydd yn swnio fel rhywbeth modern iawn on'd yw e? Ond fel d'wedodd Aron wrth Shan Cothi wythnos diwrtha mae llawer iawn o'r hyn mae o'n ei wneud yn ei swydd wedi bod o gwmpas ers amser maith, ac yn bethau roedd ei fam-gu yn gwybod popeth amdanyn nhw.

\\nAled Hughes - Golff\\n \\narbed - to save\\npaid \\xe2 mwydro - don't talk nonsense\\nchwythu - to blow\\npeltan - a slap\\nymchwil - research\\ncamu'n \\xf4l - to step back\\nty'd 'laen - come on!\\nanelu - to aim\\nhir oes - long life\\ndrain - thorns\\n \\nAron Snowsill oedd hwnna yn siarad am ei waith fel therapydd maeth ar Bore Cothi. Mae Aled Hughes yn hoff iawn o drio pethau newydd a'r wythnos diwetha aeth e am wers golff ar faes golff Bangor gyda Sue Evans. Sut hwyl gaeth e tybed?\\n \\n \\nHwyrnos Georgia Ruth - Ani Glass\\n \\ndarlledwr - broadcaster\\ngo iawn - real\\narbrofi - to experiment\\nset byw - a live set\\nofferyn - instrument\\nychwanegu - additional

Falle dylai Aled aros yn ei swydd fel darlledwr - dw i ddim yn medddwl bydd e'n olffiwr proffesiynol rhywsut. Mae gan y gantores Ani Glass albwm newydd a chlywon ni dair c\\xe2n o'r albwm ar raglen Georgia Ruth. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Ani gyda Georgia.

\\nIfan Evans - ffered\\n \\nffured - ferret\\nhela - to hunt\\nclymu - to tie\\ndianc - to escape\\nmwy tebygol - more probable\\nmentro - to venture\\ndere di draw - come over\\ncnoiad - a bite\\ncosi - to tickle\\ncrafu - to scratch \\n \\nMae'n bosib i chi glywed y tair c\\xe2n gafodd ei chwarae ar y rhaglen drwy fynd ar wefan Radio Cymru. Roedd hi'n Ddiwrnod Cenedlaethol Caru'ch Anifail Anwes ddydd Iau diwetha, wir nawr, a chafodd Ifan Evans sgwrs gyda Cari ac Elidir o Lanwrin ym Mhowys am eu hanifeiliaid anwes sef Sooty a Bon Bon. Ond nid ci neu gath oedd ir anifeiliaid hyn ond dwy ffured.

\\nHuw Stephens Radio Cymru 2 - Cocadwdl\\n \\ncyfres - series\\ntywydd erchyll - terrible weather\\ncyfartaledd oedran - average age\\nmae gen i gywilydd - I'm ashamed\\nwedi cael eu hetifeddu - inherited\\ngwyddbwyll - chess\\nail-afael - resume\\nsoddgrwth - cello

Dwy ffured, Sooty a Bon Bon, yn ymweld \\xe2 stiwdio Aberystwyth ar Ddiwrnod Cenedlaethol Caru'ch Anifail - beth nesa tybed? Doedd 'na ddim anifeiliaid ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru 2 fore Gwner ond mi glywon ni sawl 'cocadwdl ' yn y sgwrs rhwng Aled Samuel a Mandy Watkins.

\\nDros Ginio - Steve Hewitt\\n \\nCaergrawnt - Cambridge\\nLlydaweg - Breton\\nYn llawer nes - much nearer\\ncwympo mewn - to fall in\\ngwrthod - to refuse\\ny Cenhedloedd Unedig - The United Nations\\ncyfieithydd - translator\\nargyfwng - crises\\namrywiaeth - variety\\n \\nMandy Watkins o'r gyfres Dan Do ar s4C oedd honna yn 'cocadwdl-dwio' gyda Aled Samuel. \\nMae Steve Hewitt yn dod o America'n wreiddiol, a symudodd i Brydain pan oedd yn bymtheg oed. Erbyn hyn mae e'n rhugl yn y Gymraeg a chafodd James Williams sgwrs gyda fe yn slot y Byd a'i Bethau ar y rhaglen Dros Ginio dydd Gwener. Dyma Steve yn esbonio pam a phryd dysgodd e'r Gymraeg.

"