Podlediad Dysgu Cymraeg - 12fed o Chwefror 2020

Published: Feb. 12, 2020, 5 p.m.

b"

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Aled Hughes - Gwartheg yn siarad\\n \\ngwartheg - cattle\\nbrefu - mooing\\nymchwil - research\\nar brydiau hwyrach - at times perhaps\\ntynnu lloiau - pulling calves\\nblawd - cattle feed\\nheffrod - heiffers\\ntarw - bull\\nfel diawl - intensely\\ncoelio - credu\\n \\nYn yr wythnos pan ddaeth y ffilm 'Dr Dolittle' allan dyma Aled Hughes yn penderfynu basai fe'n trio cael sgwrs gyda gwartheg Bryn Roberts o Benisarwaun ger Llanberis. Roedd e wedi clywed bod gwartheg yn gallu brefu mewn 13 o wahanol ffyrdd a bod pob bref yn golygu rhywbeth gwahanol. Dyma sut aeth sgwrs Aled gyda'r gwartheg druan.

\\nAr y Marc - Corau Rhys Meirion \\n \\ngelynion - enemies\\ndewr - brave\\ncyfres newydd - new series\\ncythraul canu (idiom) - singing rivalry\\ncyd-ganu - singing together\\nprofiad gwych - brilliant experience\\ncantorion - singers\\nymarfer - rehearsal\\noddi cartre - away\\nbuddugoliaeth - victory\\n \\nAled Hughes oedd hwnna'n trio cael sgwrs gyda gwartheg. Dim ond pedair milltir sy rhwng pentrefi Llanrug a Llanberis yng Ngwynedd ac mae timau p\\xeal-droed y pentrefi yn dipyn o elynion ar y cae chwarae. Penderfyniad dewr felly oedd un Rhys Meirion i ddod \\xe2'r ddau d\\xeem at ei gilydd i ganu fel un c\\xf4r. Ar raglen Ar y Marc cafodd Dylan Jones sgwrs gyda Rhys Meirion, Dafydd Arfon o Lanrug ac Eurwyn Thomas o Lanberis am y syniad dewr yma.

\\nRhaglen Ifan Jones Evans - Colin Jackson\\n \\ncyflwynydd - presenter\\nei ardal enedigol - area of his birth\\narfordir - coast\\nGwersyll - Camp\\ndyfalu - to guess\\npeiriant amaethyddol - agricultural machine\\ngo iawn - real

Cofiwch wylio'r gyfres newydd nos Iau ar S4C i chi gael gweld sut si\\xe2p oedd ar y c\\xf4r erbyn i Rhys Mrieion orffen gyda nhw. \\nMae yna gyfres newydd arall yn dod i S4C sef Iaith Ar Daith ac yn un o raglenni'r gyfres mae'r cyflwynydd Eleri Sion yn mynd o gwmpas ardal enedigol y cynathletwr Colin Jackson ac yn rhoi cyfle i Colin, sy'n dysgu'r iaith, ymarfer y Gymraeg ar y ffordd. A dydd Llun diwetha, llwyddodd Ifan Jones Evans i ddod o hydi'r ddau ohonyn nhw ar eu taith a'u holi ble byddan nhw'n mynd nesa.

\\nBore Cothi - Stifyn Parri\\n \\ntrawsblaniad gwallt - hair transplant\\nblewyn - a hair\\ntyllu mewn - dig into\\ngwreiddyn - root\\nmae na lu o nyrsys - there's a legion of nurses\\ntriawd y buarth - the farmyard trio (welsh folk song)\\nhylif arbennig - special liquid\\ncroen - skin\\nail-blannu - replant\\nplanhigyn - plants\\n \\nA bydd yn bosib gweld llawer o bobl sy'n dysgu Cymraehg yn y gyfres Iaith ar Daith, Colin Jackson yn fan'na ond hefyd bydd Carol Vorderman yn ymddangos mewn un o'r rhaglenni. Mae'r actor Stifyn Parri wedi cael trawsblaniad gwallt yn ystod y pythefnos diwetha. Dyma fe ar Bore Cothi'n esbonio'r broses. Oedd hi'n un boenus tybed?

Geraint Lloyd - Aberhonddu\\n \\nAberhonndu - Brecon\\ntref farchnad wledig - a rural market town\\nY Bannau - The Beacons\\ndiwydiant ymwelwyr - tourist industry\\ntraddodaid - tradition\\namrywiaeth - variety\\natyniad - attraction\\ncamlas - canal\\nnwyddau - goods\\ndiwydiant haearn - iron industry\\n \\nStifyn Parri oedd hwnna yn s\\xf4n am ei drawblaniad gwallt. Pa mor dda dych chi'n nabod Aberhonddu? Wel dyma'r dref oedd yn cael ei rhoi Ar y Map ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth, ac un sydd yn nabod y lle yn dda ac wedi byw yno ers hanner can mlynedd bellach ydy John Meurig Edwards. Dyma fe'n rhoi ychydig o hanes y dre.

\\nBeti A'i Phobol - Elinor Snowsill\\n \\nrhyngwladol - international\\naraith - speech\\nmo'yn - eisiau\\npwysau - pressure\\ncyfarwydd \\xe2 - familiar with\\ngorfeddwl - to overthink\\nrhyddh\\xe2d - relief\\ngan eitha lot - by quite a big margin\\nanaf - injury\\nbwrw (fy) mhen i - hit my head\\n \\nBach o hanes tref Aberhonddu yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y chwaraewraig rygbi ryngwladol Elinor Snowsill. Roedd Elinor yn arfer dioddef o beth roedd hi'n ei alw'n Performance Anxiety. Beth oedd effaith hyn ar ei g\\xeam a sut wnaeth hi ddodd dros y cyflwr? Dyma hi'n esbonio wrth Beti.

"