Pigion y Dysgwyr 8fed Hydref 2021

Published: Oct. 8, 2021, 4 p.m.

b"

Shwmai... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. \\nWynne Evans dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma, wythnos sy\\u2019n rhoi sylw i ddysgu Cymraeg dyn ni\\u2019n mynd at raglen \\u2026

BORE COTHI

Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd ac mae hi ar ei blwyddyn gynta ym Mhrifysgol Bangor yn astudio\\u2019r Gymraeg. \\nDoedd ei rhieni hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond penderfynon nhw ei hanfon hi i ysgol Gymraeg. \\nHi enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd eleni, ac yn mis Medi, hi oedd Bardd y Mis Radio Cymru. \\nDyma hi\\u2019n sgwrsio gyda Shan Cothi am ei chefndir, ac i ddechrau holodd Shan am ei llwyddiant hi yn yr Eisteddfod\\u2026

Cefndir\\t\\t\\t\\t\\tBackground

Llwyddiant\\t\\t\\t\\tSuccess

Rhannu fy ngherddi\\t\\t\\tSharing my poems

Cysur\\t\\t\\t\\t\\tComfort

Di-Gymraeg\\t\\t\\t\\tNon Welsh speaking

Gwerthfawrogol\\t\\t\\tAppreciative

Wythnos y glas\\t\\t\\tFreshers Week

Cymdeithasu\\t\\t\\t\\tTo socialise

GERAINT LLOYD

A phob lwc i Kayley, on\\u2019d ife, ym Mhrifysgol Bangor.\\nAeth Geraint Lloyd draw i Ynys Enlli ym Mhen Ll\\u0177n am y tro cynta yn ei fywyd wythnos diwetha, a chafodd gyfle i gyfarfod rhai o gymeriadau\\u2019r ynys. \\nLle hyfryd ond unig iawn ydy Enlli heddiw, ond sut oedd hi yno yn y gorffennol tybed? Dyma\\u2019r ffermwr Gareth Roberts yn rhoi ychydig o hanes y lle i ni\\u2026

Blaengar iawn\\t\\t\\t\\tVery progressive

Ar un cyfnod\\t\\t\\t\\tAt one time

\\u0176d\\t\\t\\t\\t\\t\\tCorn

Rhwyfau\\t\\t\\t\\t\\tOars

Cynnyrch\\t\\t\\t\\t\\tProduce

Yr oes honno\\t\\t\\t\\tAt that time

Diweddara\\t\\t\\t\\tMost recent

DEI TOMOS

Wel pwy fydde\\u2019n meddwl mai merched Enlli oedd yn arwain byd ffasiwn Pen Ll\\u0177n? \\nMae ardaloedd llechi Gwynedd wedi dod i sylw\\u2019r byd eleni ar \\xf4l ennill statws Safle Treftadaeth Byd Unesco. \\nOnd oeddech chi\\u2019n gwybod bod llawer iawn mwy i\\u2019r diwydiant llechi na chynhyrchu llechi to yn unig? \\nMae Pred Hughes wedi cyhoeddi llyfr am y diwydiant ac yn y clip yma o sgwrs gafodd e gyda Dei Tomos, mae e\\u2019n s\\xf4n am y broses o enamlo , hynny yw rhoi enamel ar lechen...\\n \\nLlechi\\t\\t\\t\\t\\tSlates

Treftadaeth\\t\\t\\t\\tHeritage

Diwydiant\\t\\t\\t\\tIndustry

Galwad enfawr\\t\\t\\tA huge demand

Moethus\\t\\t\\t\\t\\tLuxurious

Mwyafrif\\t\\t\\t\\t\\tMajority

Rhiniogau\\t\\t\\t\\tThresholds

Godidog\\t\\t\\t\\t\\tSplendid

\\u2018Sech chi\\u2019n taeru\\t\\t\\tYou\\u2019d swear

Plisgyn \\u0175y\\t\\t\\t\\tEgg shell

STIWDIO

Pred Hughes oedd hwnna\\u2019n esbonio\\u2019r broses o enamlo llechi wrth Dei Tomos. \\nNos Lun ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Arfon Haines Davies am y llyfr mae e wedi ei olygu , sef \\u201cHunanbortread David Griffiths\\u201d. \\nMae David Griffiths yn dod yn wreiddiol o Bwllheli ac mae e\\u2019n un o artistiaid portreadau mwyaf blaenllaw Prydain. \\nMae e wedi creu portreadau o lawer o enwogion dros y blynyddoedd, fel buodd Arfon yn egluro...

Blaenllaw\\t\\t\\t\\t\\tProminent\\t\\t\\t\\t\\t

Brenhinol\\t\\t\\t\\t\\tRoyal

Straeon difyr\\t\\t\\t\\tInteresting stories

Braslunio\\t\\t\\t\\t\\tSketching

Archdderwydd\\t\\t\\t\\tArchdruid

Cynnwys\\t\\t\\t\\t\\tTo include

Diymhongar\\t\\t\\t\\tUnassuming

Prif Weithredwyr\\t\\t\\tChief Executives

Loncian\\t\\t\\t\\t\\tJogging

BORE COTHI

Dipyn bach o hanes yr artist David Griffiths yn fan\\u2019na gan Arfon Haines Davies. \\nNesa cawn ni glywed rhan o sgwrs rhwng y gantores canu gwlad o Geredigion, Doreen Lewis a Shan Cothi, ble mae Doreen yn s\\xf4n am ei mordaith delfrydol!

Canu gwlad\\t\\t\\t\\tCountry (singing)

Mordaith delfrydol\\t\\t\\tIdeal cruise

Traethau aur\\t\\t\\t\\tGolden beaches

Coed palmwydd\\t\\t\\tPalm trees

Naws ffwrdd \\xe2 hi\\t\\t\\tRelaxed atmosphere

Ydy glei\\t\\t\\t\\t Ydy si\\u0175r

Ffaelu\\t\\t\\t\\t\\tMethu

Braint\\t\\t\\t\\t\\tPrivilege

Atgoffa\\t\\t\\t\\t To remind

SHELLEY A RHYDIAN

Doreen Lewis oedd honna\\u2019n breuddwydio am fynd yn \\xf4l i\\u2019r Carib\\xee. Hyfryd!\\nBob wythnos ar y Sioe Sadwrn, mae Shelley a Rhydian yn gofyn i un o enwogion Cymru gyflwyno ei anifail anwes i ni fel rhan o \\u2018Cynghrair y C\\u0175n\\u2019, a dyma Eleri Sion yn ein cyflwyno ni i\\u2019w chi bach hi, Ralffi.

Cynghrair y C\\u0175n\\t\\t\\tDog\\u2019s league

Anrhydedd\\t\\t\\t\\tHonour

Uchelael\\t\\t\\t\\t\\tHighbrow

Ymateb\\t\\t\\t\\t\\tTo respond

Barus\\t\\t\\t\\t\\tGreedy

Fy ngh\\xf4l i\\t\\t\\t\\tMy lap

Gwiwerod\\t\\t\\t\\tSquirrels

Ei d\\xeen e\\t\\t\\t\\t\\tHis backside

Talent cudd\\t\\t\\t\\tHidden talent

Toddi nghalon i\\t\\t\\tMelts my heart

Wel mae Ralffi\\u2019n swnio\\u2019n gi bach bendigedig!

A dyna ni\\u2019r podlediad am wythnos arall. Ond cyn cloi, cofiwch am holl raglenni arbennig yr wythnos nesaf. Mae cwis \\u201cCystadleu-IAITH\\u201d bob dydd am hanner awr wedi deuddeg. Cyfres \\u201cCymry newydd y cyfnod clo\\u201d am hanner awr wedi chwech, a bydd bwletin newyddion arbennig bob nos am 8. Ewch i BBC Sounds am fwy o wybodaeth.

Diolch yn fawr am eich cwmni, a daliwch ati i wrando a siarad Cymraeg. Dw i\\u2019n lwcus mod i\\u2019n medru darlledu ar Radio Wales ac yma ar Radio Cymru. Tan y tro nesaf!

"