Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021

Published: Oct. 1, 2021, 4 p.m.

b"

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma \\u2026

COFIO

Plentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio\\u2019r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi...

Gw\\xe2dd\\t\\t\\t\\tTo invite\\t\\t\\t

Yn ddigalon\\t\\t\\tTrist

Anadlu\\t\\t\\t\\tTo breathe

Peswch\\t\\t\\t\\tA cough

Wyddoch chi\\t\\t\\tYou know

BORE COTHI

Cantores arall sy\\u2019n gorfod teithio\\u2019r byd yw Rhian Lois a buodd hi\\u2019n sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi\\u2019n trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi?

Synhwyrau\\t\\t\\tSenses

Arogl\\t\\t\\t\\tA smell

Bant\\t\\t\\t\\t\\tI ffwrdd

Llanw fy nghalon i\\t\\tFills my heart

Croten\\t\\t\\t Merch fach

Mam-gu\\t\\t\\t\\tNain

GWNEUD BYWYD YN HAWS

Y gantores Rhian Lois oedd honna yn s\\xf4n am ei merch fach Elsi. \\nMae tymor yr Hydref yn dod a sialensau iechyd gydag e, a\\u2019r system imiwnedd oedd yn cael sylw Hanna Hopwood yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws. Buodd Hanna\\u2019n siarad gyda Ellie Armstrong o\\u2019r cwmni Chuckling Goat i gael gwybod mwy am sut mae\\u2019r diod Kefir yn gallu helpu gyda imiwnedd.

Ymateb\\t\\t\\t\\t\\tResponse

Hynod o lwyddiannus\\t\\tExtremely successful

Llaeth gafr\\t\\t\\t\\tGoat\\u2019s milk

Llys-fam\\t\\t\\t\\t\\tStepmother

Tawlu\\t\\t\\t\\t\\tTaflu

Cyflyrau croen\\t\\t\\t\\tSkin conditions

Eitha tost\\t\\t\\t\\t\\tQuite ill

ALED HUGHES

Kefir yn amlwg wedi gwneud bywyd yn haws i deulu Ellie Armstrong. Mae Morwenna Tang, yn dod o Shanghai yn China yn wreiddiol. Enw Cymraeg YuQi ydy Morwenna, a daeth hi i Gymru ddwy flynedd yn \\xf4l gyda\\u2019i g\\u0175r, Scott Griffiths, sy\\u2019n dod yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau\\u2019r cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Beth wnaeth iddi hi benderfynu dysgu Cymraeg tybed?

Adnoddau\\t\\t\\t\\tResources

Bodolaeth\\t\\t\\t\\tExistence

IFAN EVANS

Cymraeg gwych gan Morwenna yn fan\\u2019na ar \\xf4l dim ond dwy flynedd yn dysgu\\u2019r iaith. Wythnos yma, cafodd Ifan Evans sgwrs gyda Marc Skone, oedd yn arfer perfformio gyda\\u2019r \\u2018boy band \\u2018 Cymraeg Mega. Mae e yn \\xf4l yn perfformio nawr yn rhan o\\u2019r gr\\u0175p newydd Halo Cariad, a gofynodd Ifan iddo fe beth oedd e wedi bod yn ei wneud ers iddo fe adael Mega?

Hyn a llall\\t\\t\\t\\tThis and that

Dim mor ff\\xf4l a hynny\\t\\tNot that bad

Profiadau\\t\\t\\t\\t\\tExperiences

Cyfoethogi\\t\\t\\t\\tTo enrich

Gwerth chweil\\t\\t\\t\\tWorthwhile

Cynhyrchydd\\t\\t\\t\\tProducer

St\\u0175r\\t\\t\\t\\t\\t\\tA row

BETI A\\u2019I PHOBL

Marc Skone oedd hwnna\\u2019n s\\xf4n am ei fand newydd Halo Cariad. Mae\\u2019r ffilm Dream Horse wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae\\u2019r ffilm yn seiliedig ar stori wir am griw o bobl o gymoedd de Cymru wnaeth fuddsoddi mewn ceffyl o\\u2019r enw Dream Alliance aeth ymlaen i rasio yn Grand National Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Beti George gyda chyfarwyddwr y ffilm Euros Lyn...

Buddsoddi\\t\\t\\t\\tTo invest

Cyfarwyddwr\\t\\t\\t\\tDirector

Adolygu\\t\\t\\t\\t\\tTo review

Crynhoi\\t\\t\\t\\t\\tTo summarise

Cynulleidfa\\t\\t\\t\\tAudience

Adloniant\\t\\t\\t\\t\\tEntertainment

Cynhesrwydd\\t\\t\\t\\tWarmth

Llafar\\t\\t\\t\\t\\tVocal

Rhyngwladol\\t\\t\\t\\tInternational

"