b"
Gerallt Pennant yn trafod Wythnos Ymwybyddiaeth Gwenoliaid Duon a hanes Canolfan Ryngwladol Adnoddau Daear Glyn Rhonwy gyda Math Williams a Ben Stammers.
Si\\xf4n Dafis yn s\\xf4n am flodyn prin ar y Gogarth sy\\u2019n dibynnu ar wyfynod, a beth fedrwn ni wneud i helpu peillwyr yn gyffredinol.
Dr Gethin Thomas a Dr Jess Mead Silvester yn trafod ymwelwyr tymhorol i'n moroedd, pysgod yr haul Mola mola, sydd wedi bod yn heidio cryn dipyn wrth i'r d\\u0175r gynhesu.
"